Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 36

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD.

1Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon;

nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.

2Llwydda i'w dwyllo ei hun

na ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.

3Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;

peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.

4Cynllunia ddrygioni yn ei wely;

y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,

ac nid yw'n gwrthod y drwg.

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

  • Psalms 36:1 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, fy nghalon. View in passage

5Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,

a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;

6y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel

a'th farnau fel y dyfnder mawr;

cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.

7Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!

Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.

8Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,

a diodi hwy o afon dy gysuron;

9oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,

ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.

10Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod

a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.

11Na fydded i'r troed balch fy sathru,

nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.

12Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo,

wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!