information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 5

1“Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog;

y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn;

trewir barnwr Israel ar ei foch â ffon.”

Notes for verse 11 entry

Text notes

Addo Llywodraethwr o Fethlehem

2Ond ti, Bethlehem Effrata,

sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda,

ohonot ti y daw allan i mi

un i fod yn llywodraethwr yn Israel,

a'i darddiad yn y gorffennol,

mewn dyddiau gynt.

3Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog,

ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel

at eu tylwyth.

4Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD,

ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw.

A byddant yn ddiogel,

oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;

5ac yna bydd heddwch.

Gwaredigaeth a Chosb

Pan ddaw Asyria i'n gwlad,

a cherdded hyd ein tir,

codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid

ac wyth o arweinwyr pobl.

6A bugeiliant Asyria â'r cleddyf,

a thir Nimrod â'r cleddyf noeth;

fe'n gwaredant oddi wrth Asyria

pan ddaw i'n gwlad

a sarnu'n terfynau.

Notes for verses 5–61 entry

Text notes

7A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer,

fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD,

fel cawodydd ar laswellt,

nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn,

nac yn aros am feibion dynion.

8A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd,

ac yng nghanol pobloedd lawer,

fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig,

fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid,

sydd, wrth fynd heibio, yn mathru

ac yn malurio, heb neb i waredu.

9Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr,

a thorrir ymaith dy holl elynion.

10“Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,

“distrywiaf dy feirch o'ch plith,

a dinistriaf dy gerbydau.

11Distrywiaf ddinasoedd dy wlad,

a mathraf dy holl geyrydd.

12Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael,

ac ni fydd gennyt ddewiniaid.

13Distrywiaf dy gerfddelwau

a'th golofnau o'ch mysg,

a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.

14Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith,

a dinistriaf dy ddinasoedd.

15Mewn llid a digofaint fe ddialaf

ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”