information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 6

Achos yr ARGLWYDD yn erbyn Israel

1Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD:

“Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd,

a bydded i'r bryniau glywed dy lais.

2Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd,

chwi gadarn sylfeini'r ddaear;

oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl,

ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.

3O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?

Sut y blinais di? Ateb fi.

4Dygais di i fyny o'r Aifft,

gwaredais di o dŷ'r caethiwed,

a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.

5O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab,

a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef,

a hefyd y daith o Sittim i Gilgal,

er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”

6Â pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD,

a phlygu gerbron y Duw uchel?

A ddof ger ei fron â phoethoffrymau,

neu â lloi blwydd?

7A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod

neu ar fyrddiwn o afonydd olew?

A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd,

fy mhlant fy hun am fy mhechod?

8Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,

a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:

dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch,

ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

Euogrwydd Israel a'i Chosb

9Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—

y mae llwyddiant o ofni ei enw:

“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas.

10A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr,

a'r mesur prin sy'n felltigedig?

11A oddefaf gloriannau twyllodrus,

neu gyfres o bwysau ysgafn?

12Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,

a'i thrigolion yn dweud celwydd,

a thafodau ffals yn eu genau.

13Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,

i'th anrheithio am dy bechodau:

14byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,

a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog;

byddi'n cilio, ond heb ddianc,

a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;

15byddi'n hau, ond heb fedi,

yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew,

a gwinwydd, ond heb yfed gwin.

16Cedwaist ddeddfau Omri,

a holl weithredoedd tŷ Ahab,

a dilynaist eu cynghorion,

er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith

a'th drigolion yn gyff gwawd;

a dygwch ddirmyg y bobl.”

Notes for verses 9–165 entries

Text notes