information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 4

Yr ARGLWYDD yn Teyrnasu mewn Heddwch

Es. 2:1–4

1Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD

wedi ei osod ar ben y mynyddoedd

ac yn uwch na'r bryniau.

Dylifa'r bobloedd ato,

2a daw cenhedloedd lawer, a dweud,

“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,

i deml Duw Jacob,

er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd

ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”

Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,

a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,

ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;

byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,

a'u gwaywffyn yn grymanau.

Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,

ac ni ddysgant ryfel mwyach;

4a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden

a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.

Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.

5Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,

ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.

Adferiad Israel

6“Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,

“fe gasglaf y cloff,

a chynnull y rhai a wasgarwyd

a'r rhai a gosbais;

7a gwnaf weddill o'r cloff,

a chenedl gref o'r gwasgaredig,

a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion

yn awr a hyd byth.

8A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,

i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,

y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”

Ymryson Arall â'r Gau Broffwydi

9“Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel?

Onid oes gennyt frenin?

A yw dy gynghorwyr wedi darfod,

nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?”

10“Gwinga a gwaedda, ferch Seion,

fel gwraig yn esgor,

oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas

ac yn byw yn y maes agored;

byddi'n mynd i Fabilon.

Yno fe'th waredir;

yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub

o law d'elynion.”

11“Yn awr y mae llawer o genhedloedd

wedi ymgasglu yn dy erbyn,

ac yn dweud, ‘Haloger hi,

a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’

12Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD,

nac yn deall ei fwriad,

oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

13Cod i ddyrnu, ferch Seion,

oherwydd gwnaf dy gorn o haearn

a'th garnau o bres,

ac fe fethri bobloedd lawer;

yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw,

a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”