information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 3

1Yna dywedais,

“Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel!

Oni ddylech chwi wybod beth sy'n iawn?

2Yr ydych yn casáu daioni ac yn caru drygioni,

yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl,

a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn;

3yr ydych yn bwyta'u cnawd,

yn blingo'u croen oddi amdanynt,

yn dryllio'u hesgyrn,

yn eu malu fel cnawd i badell

ac fel cig i grochan.

4Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD,

ond ni fydd yn eu hateb;

bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw,

am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus.”

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi

sy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn,

y rhai os cânt rywbeth i'w fwyta

sy'n cyhoeddi heddwch,

ond pan na rydd neb ddim iddynt

sy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:

6“Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch,

ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth;

bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi,

a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas.”

7Bydd y gweledyddion mewn gwarth

a'r dewiniaid mewn cywilydd;

byddant i gyd yn gorchuddio'u genau,

am nad oes ateb oddi wrth Dduw.

8Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grym

ac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth,

i gyhoeddi ei drosedd i Jacob,

a'i bechod i Israel.

9Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel,

chwi sy'n casáu cyfiawnder

ac yn gwyrdroi pob uniondeb,

10yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaed

a Jerwsalem trwy dwyll.

11Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl,

ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr,

ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian;

ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud,

“Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg?

Ni ddaw drwg arnom.”

12Am hynny, o'ch achos chwi

bydd Seion yn faes wedi ei aredig,

a Jerwsalem yn garneddau,

a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.