information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Joel 1

Locustiaid yn Ymosod

1Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.

2Clywch hyn, henuriaid,

gwrandewch, holl drigolion y wlad.

A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi,

neu yn nyddiau eich hynafiaid?

3Dywedwch am hyn wrth eich plant,

a dyweded eich plant wrth eu plant,

a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.

4Yr hyn a adawodd y cyw locust,

fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant;

yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant,

fe'i bwytaodd y locust mawr;

a'r hyn a adawodd y locust mawr,

fe'i bwytaodd y locust difaol.

5Deffrowch feddwon, ac wylwch;

galarwch, bob yfwr gwin,

am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.

6Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,

a honno'n un gref a dirifedi;

dannedd llew yw ei dannedd,

ac y mae ganddi gilddannedd llewes.

7Maluriodd fy ngwinwydd,

a darnio fy nghoed ffigys;

rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,

ac aeth y cangau'n wynion.

8Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliain

am ddyweddi ei hieuenctid.

9Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD;

y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.

10Anrheithiwyd y tir,

y mae'r ddaear yn galaru,

oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,

ac i'r gwin ballu,

ac i'r olew sychu.

11Safwch mewn braw, amaethwyr,

galarwch, winwyddwyr,

am y gwenith a'r haidd;

oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.

12Gwywodd y winwydden,

a deifiwyd y ffigysbren.

Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—

y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.

A diflannodd llawenydd o blith y bobl.

Galwad i Edifeirwch

13Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,

codwch gwynfan, weinidogion yr allor.

Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,

weinidogion fy Nuw,

oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm

gael eu hatal o dŷ eich Duw.

14Cyhoeddwch ympryd,

galwch gynulliad.

Chwi henuriaid, cynullwch

holl drigolion y wlad

i dŷ'r ARGLWYDD eich Duw,

a llefwch ar yr ARGLWYDD.

15Och y fath ddiwrnod!

Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;

daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.

16Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid,

a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?

17Y mae'r had yn crebachu

o dan y tywyrch,

yr ysgubor wedi ei chwalu

a'r granar yn adfeilion,

am i'r grawn fethu.

18Y fath alar gan yr anifeiliaid!

Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswch

am eu bod heb borfa;

ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.

19Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain,

oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch,

a llosgodd fflam holl goed y maes.

20Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat,

oherwydd sychodd y nentydd

a difaodd tân borfeydd yr anialwch.