information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 14

Apêl Hosea at Israel

1Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,

canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.

2Cymerwch eiriau gyda chwi,

a dychwelwch at yr ARGLWYDD;

dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,

derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.

3Ni all Asyria ein hachub,

ac ni farchogwn ar geffylau;

ac wrth waith ein dwylo

ni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.

Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

Ymateb Duw

4“Iachâf eu hanffyddlondeb;

fe'u caraf o'm bodd,

oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.

5Byddaf fel gwlith i Israel;

blodeua fel lili

a lleda'i wraidd fel pren poplys.

6Lleda'i flagur,

a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden,

a'i arogl fel Lebanon.

7Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod;

cynhyrchant ŷd,

ffrwythant fel y winwydden,

bydd eu harogl fel gwin Lebanon.

Notes for verses 4–72 entries

Text notes

8“Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod?

Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir.

Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog;

oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.”

9Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn;

pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded.

Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir;

rhodia'r cyfiawn ynddynt,

ond meglir y drygionus ynddynt.