information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 55

Gwahoddiad i'r Sychedig

1“Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno;

dewch, er eich bod heb arian;

prynwch a bwytewch.

Dewch, prynwch win a llaeth,

heb arian a heb dâl.

2Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara,

a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni?

Gwrandewch arnaf yn astud,

a chewch fwyta'r hyn sydd dda,

a mwynhau danteithion.

3Gwrandewch arnaf, dewch ataf;

clywch, a byddwch fyw.

Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol,

fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.

4Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl,

yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl.

5Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini,

a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat;

oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw,

o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu.”

6Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael,

galwch arno tra bydd yn agos.

7Gadawed y drygionus ei ffordd,

a'r un ofer ei fwriadau,

a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho,

ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.

8“Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,

ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD.

9“Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,

y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,

a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.

10Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd,

a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear,

a gwneud iddi darddu a ffrwythloni,

a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,

11felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau;

ni ddychwel ataf yn ofer,

ond fe wna'r hyn a ddymunaf,

a llwyddo â'm neges.

12“Mewn llawenydd yr ewch allan,

ac mewn heddwch y'ch arweinir;

bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen,

a holl goed y maes yn curo dwylo.

13Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain,

a myrtwydd yn lle mieri;

bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD,

yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono.”