information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 54

Gogoniant Seion

1“Cân di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor;

dyro gân, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor;

oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod,”

medd yr ARGLWYDD.

2“Helaetha faint dy babell,

estyn allan lenni dy drigfannau;

gollwng y rhaffau allan i'r pen,

a sicrha'r hoelion.

3Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith;

bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd,

ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig.

4Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di,

ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat;

oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid,

ac ni chofi bellach am warth dy Weddwdod.

5Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr—

ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw;

Sanct Israel yw dy waredydd,

a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol,

y galwodd yr ARGLWYDD di—

gwraig ifanc wedi ei gwrthod,”

medd dy Dduw.

7“Am ennyd fechan y'th adewais,

ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr.

8Am ychydig, mewn dicter moment,

cuddiais fy wyneb rhagot;

ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,”

medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.

9“Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa,

pan dyngais nad âi dyfroedd Noa

byth mwyach dros y ddaear;

felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy,

na'th geryddu ychwaith.

10Er i'r mynyddoedd symud,

ac i'r bryniau siglo,

ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt,

a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,”

medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.

11“Y druan helbulus, ddigysur!

Rwyf am osod dy feini mewn morter,

a'th sylfeini mewn saffir.

12Gwnaf dy dyrau o ruddem,

a'th byrth o risial;

bydd dy fur i gyd yn feini dethol,

13a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD.

Daw llwyddiant mawr i'th blant,

14a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder;

byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat,

ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat.

15Os bydd rhai yn ymosod arnat,

nid oddi wrthyf fi y daw hyn;

bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.

16Edrych, myfi a greodd y gof,

sy'n chwythu'r marwor yn dân,

ac yn llunio arf at ei waith;

myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.

17Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn;

gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn.

Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,

ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,”

medd yr ARGLWYDD.

Notes for verses 11–171 entry

Text notes