information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 8

Condemnio Eilunaddoliaeth Israel

1“At dy wefus â'r utgorn!

Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tŷ'r ARGLWYDD,

am iddynt dorri fy nghyfamod

a gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.

2Llefant arnaf, ‘O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.’

3Ffieiddiodd Israel ddaioni;

bydd gelyn yn ei ymlid yntau.

4“Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi;

gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod.

Â'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau,

a hynny er distryw.

5Ffieiddiais dy lo, Samaria;

cyneuodd fy llid yn ei erbyn.

6Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel?

Crefftwr a'i gwnaeth;

nid yw'n dduw.

Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.

Notes for verses 4–62 entries

Text notes

7“Canys y maent yn hau gwynt,

ac yn medi corwynt.

Y mae'r corsennau ŷd heb rawn,

ni rônt flawd;

pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.

8Llyncwyd Israel;

y mae eisoes ymysg y cenhedloedd

fel llestr diwerth.

9Aethant i fyny at Asyria,

fel asyn gwyllt ar ddisberod.

Bargeiniodd Effraim am gariadon;

10er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd,

fe'u casglaf yn awr,

wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.

11“Amlhaodd Effraim allorau;

ond aethant iddo yn allorau i bechu.

12Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau,

fe'u hystyrir fel peth dieithr.

13Carant aberthau;

aberthant gig a'i fwyta;

ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt.

Yn awr fe gofia eu drygioni,

a chosbi eu pechodau;

dychwelant i'r Aifft.

14Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,

ac adeiladodd balasau;

lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog;

ond anfonaf dân ar ei ddinasoedd

ac fe ysa ei amddiffynfeydd.”

Notes for verses 11–141 entry

Text notes