information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 7

1“ Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,

datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,

oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;

y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.

2Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;

y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,

y maent yn awr ger fy mron.

3Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,

a'r tywysogion â'u celwyddau.

4Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,

nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;

estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

6Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;

ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;

yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.

7Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;

syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”

Notes for verses 1–72 entries

Text notes

Israel a'r Cenhedloedd

8“Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;

y mae Effraim fel teisen heb ei throi.

9Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;

lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.

10Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;

eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,

ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.

11“Y mae Effraim fel colomen,

yn ffôl a diddeall;

galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,

a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;

fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

13Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!

Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!

Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.

14“Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;

am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.

15Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,

eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.

16Trônt yn ôl heb lwyddo; y maent fel bwa twyllodrus;

syrth eu penaethiaid â'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau.

Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.”

Notes for verses 14–161 entry

Text notes