information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 6

Edifeirwch Ffuantus

1“Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD;

fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ;

fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha.

2Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,

a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.

3Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;

y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;

daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”

4“Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda?

Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar.

5Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi,

fe'u lleddais â geiriau fy ngenau,

a daw fy marn allan fel goleuni.

6Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth,

gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.

7Yn Adma torasant gyfamod,

yno buont dwyllodrus tuag ataf.

8Dinas rhai ofer yw Gilead,

wedi ei thrybaeddu â gwaed.

9Fel y bydd lladron yn disgwyl am rywun,

felly'r ymunodd yr offeiriaid yn fintai;

byddant yn lladd ar y ffordd i Sichem,

yn wir, yn gwneud anfadwaith.

10Yng nghysegr Israel gwelais beth erchyll;

yno y mae puteindra Effraim, ac yr halogodd Israel ei hun.

11I tithau hefyd, Jwda, paratowyd cynhaeaf.”

Notes for verses 4–111 entry

Text notes