Hosea 5
Barn ar Israel
1“Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;
daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,
am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
2gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
Notes for verses 1–21 entry
Text notes
Hosea 5:2 Tebygol. Hebraeg yn ansicr. View in passage
3“Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;
ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
4Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,
am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”
Rhybudd rhag Eilunaddoliaeth
5Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,
syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,
ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.
7Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.
Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.
Notes for verses 5–71 entry
Text notes
Hosea 5:7 Tebygol. Hebraeg, lleuad newydd. View in passage
Rhyfel rhwng Jwda ac Israel
8“Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;
rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’
9Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;
mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;
bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,
oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.
12Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,
ac fel cancr i dŷ Jwda.
Notes for verses 8–121 entry
Text notes
Hosea 5:11 Cymh. Groeg a Syrieg. Hebraeg, gorchymyn. View in passage
13“Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,
aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;
ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.
14Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;
myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
Notes for verses 13–141 entry
Text notes
Hosea 5:13 Hebraeg, Jareb. View in passage
15“Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,
a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”