information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 9

Cyhoeddi Cosb ar Israel

1Paid â llawenychu, Israel.

Paid â gorfoleddu fel y bobloedd;

canys puteiniaist a gadael dy Dduw,

ceraist am dâl ar bob llawr dyrnu.

2Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy;

bydd y gwin newydd yn eu siomi.

3Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD;

ond dychwel Effraim i'r Aifft,

a bwytânt beth aflan yn Asyria.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

4Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD,

ac ni fodlonir ef â'u haberthau;

byddant iddynt fel bara galarwyr,

sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta.

Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara,

ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD.

5Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,

ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6Canys wele, ffoant rhag dinistr;

bydd yr Aifft yn eu casglu,

a Memffis yn eu claddu;

bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,

a drain fydd yn eu pebyll.

7Daeth dyddiau cosbi,

dyddiau i dalu'r pwyth,

a darostyngir Israel.

“Ffŵl yw'r proffwyd,

gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”

O achos dy ddrygioni mawr

bydd dy elyniaeth yn fawr.

8Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,

ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdd

a gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

9Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,

fel yn nyddiau Gibea.

Fe gofia Duw eu drygioni

a chosbi eu pechodau.

Pechod Israel a'i Ganlyniadau

10“Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;

fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.

Ond aethant i Baal-peor,

a'u rhoi eu hunain i warth eilun;

ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.

11Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;

ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.

12Pe magent blant,

fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.

Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!

13Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,

ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”

14Dyro iddynt, ARGLWYDD —

beth a roddi?

Dyro iddynt groth yn erthylu,

a bronnau hysbion.

Notes for verses 10–141 entry

Text notes

15“Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni;

yno'n wir y rhois fy nghas arnynt.

Oherwydd eu gweithredoedd drygionus,

gyrraf hwy allan o'm tŷ.

Ni charaf hwy ychwaneg;

gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.

16“Trawyd Effraim.

Sychodd eu gwraidd;

ni ddygant ffrwyth.

Er iddynt eni plant,

lladdaf anwyliaid eu crothau.”

17Bydd fy Nuw yn eu gwrthod,

am iddynt beidio â gwrando arno;

byddant yn grwydriaid ymysg y cenhedloedd.