information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 7

Gweledigaeth o Locustiaid

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar ôl torri cnwd y brenin. 2Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais,

“O Arglwydd DDUW, maddau!

Sut y saif Jacob,

ac yntau mor fychan?”

3Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. “Ni fydd hyn,” medd yr ARGLWYDD.

Gweledigaeth o Dân

4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy dân, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd. 5A dywedais,

“O Arglwydd DDUW, paid!

Sut y saif Jacob,

ac yntau mor fychan?”

6Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. “Ni fydd hyn chwaith,” medd yr Arglwydd DDUW.

Gweledigaeth o Linyn Plwm

7Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law. 8A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd,

“Wele fi'n gosod llinyn plwm

yng nghanol fy mhobl Israel;

nid af heibio iddynt byth eto.

9Difodir uchelfeydd Isaac

a distrywir cysegrleoedd Israel;

a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.”

Amos ac Amaseia

10Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau. 11Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ” 12A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno. 13Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.” 14Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor; 15ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ 16Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD.

“Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel,

a phaid â llefaru yn erbyn tŷ Isaac.’

17Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas;

fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf;

rhennir dy dir â'r llinyn;

byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan,

ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”