information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 6

Dinistr Israel

1Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion,

y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria,

gwŷr mawr y genedl bennaf,

y rhai y mae tŷ Israel yn troi atynt.

2Ewch trosodd i Calne ac edrychwch;

oddi yno ewch i Hamath fawr,

ac yna i lawr i Gath y Philistiaid.

A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi?

A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?

3Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg,

ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes;

4yn gorwedd ar welyau ifori

ac yn ymestyn ar eich matresi;

yn gwledda ar ŵyn o'r ddiadell

ac ar y lloi pasgedig;

5yn canu maswedd i sain y nabl,

ac fel Dafydd yn dyfeisio offerynnau cerdd;

6yn yfed gwin fesul powlennaid,

ac yn eich iro'ch hunain â'r olew gorau;

ond heb boeni am ddinistr Joseff!

7Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud;

derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.

8Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun;

medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd:

“Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob,

ac yn casáu ei geyrydd;

gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.”

9Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw. 10Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.”

11Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn;

bydd yn taro'r plasty yn deilchion

a'r bwthyn yn siwrwd.

12A garlama meirch ar graig?

A ellir aredig môr ag ychen?

Ond troesoch chwi farn yn wenwyn,

a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

13Llawenhau yr ydych am Lo-debar,

a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunain

y cymerasom ni Carnaim?”

14“Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,”

medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,

“ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamath

hyd at afon yr Araba.”