information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 3

Gair yn erbyn Israel

1Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft:

2“Chwi'n unig a adwaenais

o holl deuluoedd y ddaear;

am hynny, fe'ch cosbaf chwi

am eich holl gamweddau.”

3A gerdda dau gyda'i gilydd

heb wneud cytundeb?

4A rua llew yn y goedwig

pan fydd heb ysglyfaeth?

A waedda'r llew ifanc o'i ffau

pan fydd heb ddal dim?

5A syrth aderyn ar y ddaear

os nad oes magl iddo?

A neidia'r groglath oddi ar y ddaear

os nad yw wedi dal dim?

6A genir utgorn yn y ddinas

heb i'r bobl ddychryn?

A ddaw trychineb i'r ddinas

heb i'r ARGLWYDD ei anfon?

7Ni wna'r Arglwydd DDUW ddim

heb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.

8Rhuodd y llew;

pwy nid ofna?

Llefarodd yr Arglwydd DDUW;

pwy all beidio â phroffwydo?

Notes for verses 3–81 entry

Text notes

Tynged Samaria

9Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria,

ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;

dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,

ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,

ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”

10“Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.

“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”

11Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:

“Daw gelyn i amgylchu'r wlad,

a bwrw i lawr dy amddiffynfeydd

ac ysbeilio dy geyrydd.”

Notes for verses 9–111 entry

Text notes

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.”

Notes for verse 121 entry

Text notes

13“Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,”

medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd.

14“Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau,

fe gosbaf allorau Bethel;

torrir cyrn yr allor,

a syrthiant i'r llawr.

15Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf;

derfydd am y tai ifori,

a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.