information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 4

Israel Heb Ddychwelyd

1Clywch y gair hwn, fuchod Basan,

sydd ym mynydd Samaria,

sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus,

sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”:

2Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,

“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch

pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,

a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.

3Ac ewch allan trwy'r bylchau,

pob un ohonoch ar ei chyfer,

ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.

4“Dewch i Fethel a throseddu,

i Gilgal a phechu fwyfwy;

dygwch eich aberthau bob bore

a'ch degymau bob tridiau;

5offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,

cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;

canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.

6“Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,

ac eisiau bara ym mhob man;

er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

7“Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,

pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;

rhoddais law ar un ddinas,

a'i atal oddi ar un arall;

glawiodd ar un cae,

a gwywodd y cae na chafodd law;

8crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas

i yfed dŵr, ond heb gael digon;

er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

9“Trewais chwi â malltod a llwydni;

difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;

bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;

er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

Notes for verse 91 entry

Text notes

10“Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;

lleddais eich llanciau â'r cleddyf,

a chaethgludo eich meirch;

gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;

er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

Notes for verse 101 entry

Text notes

11“Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,

ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;

er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.

12“Hyn felly a wnaf i ti, Israel.

Gan fy mod am wneud hyn i ti,

bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.”

13Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt,

yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw,

yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch,

ac yn cerdded uchelderau'r ddaear—

yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.