Skip to main content
Read this in English

Yn gyflymach na bwnis

Crëwch

Pryd bwyd i’r teulu gyda'ch gilydd. 

Hyd yn oed os mai dim ond cyfrif neu arllwys yw rhai o'r tasgau, dylech gynnwys pawb wrth wneud pryd o fwyd gyda'ch gilydd.

Gellir dod o hyd i syniadau basged anrhegion ar Pinterest

Neu

Bocs anrheg

(gweler y ciwb yn yr adran ‘Gwnewch’ isod), llenwch gyda rhai o’r eitemau o’r gweithgareddau eraill fel y blodau papur sidan neu flodyn mewn pot a nythod wyau siocled a rhowch y rhain i gymydog neu ffrind.

Chwaraewch

Noson gemau i’r teulu.

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi chwarae pob gêm fwrdd sydd gennych ormod o weithiau eleni beth am ddewis llythyren o'r wyddor a gosod amserydd a gweld faint o eitemau sy'n dechrau gyda'r llythyren honno y gallwch chi ei gael? Y llythyren B er enghraifft: bara, bocs, balwn, botwm…

Neu

Siarâds

Chwaraewch siarâds ar thema'r Pasg (cymerwch syniadau o'r llyfryn).

Gwnewch

Crëwch adroddiad newyddion y Pasg.

Ceisiwch recordio'r newyddion diweddaraf gan eich teulu a'i anfon at aelodau'r teulu. Mae Wetransfer yn blatfform am ddim ar gyfer anfon ffeiliau mawr.

Ciwb gweddi

Defnyddiwch dempled ciwb, sy'n dechrau fel croes, i wneud ciwb gweddi.

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible