Skip to main content

Beth a Wnawn

Ein Calon

Ein nod yw codi hyder pobl ynghylch y Beibl, i oresgyn difaterwch ac i gynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth i annog ac i arfogi pobl yn eu taith wrth ymgysylltu ag ef. 

Mewn rhannau o’r byd, mae’n medru bod yn anodd cael mynediad i’r Beibl, neu rannau ohono. Yn y wlad hon, mae’r broblem yn ymwneud mwy â’r ffaith fod rhai yn ei chael yn anodd ei ddeall ac efallai ddim yn ei weld yn berthnasol i’w bywyd.

Rydym fel Cymdeithas y Beibl yn gweithio’n galed yma yng Nghymru a Lloegr a hefyd mewn gwahanol leoliadau ar draws y byd i geisio newid hyn. Rydym yn dod o hyd i ffyrdd o gyfieithu a dosbarthu’r Beibl. Yn ogystal â chreu fformatau digidol, rydym yn eiriol dros le’r Beibl mewn cymdeithas gan helpu pobl i uniaethu ag ef a gwneud synnwyr ohono yn eu bywydau bob dydd.

Ein Cenhadaeth

Am dros 200 mlynedd mae Cymdeithas y Beibl wedi bod yn gweithio i ddod â'r Beibl yn fyw; i helpu pobl ledled y byd i ymgysylltu ag ef, uniaethu ag ef, a gwneud synnwyr ohono.

Mae'r genhadaeth hon yn ysgogi ystod eang o weithgareddau. Mewn rhai rhannau o'r byd, mae dod â'r Beibl yn fyw yn golygu canolbwyntio ar brosiectau cyfieithu a dosbarthu. Mewn mannau arall mae'n golygu canolbwyntio ar hyfforddiant arweinyddiaeth, neu raglenni llythrennedd, neu ddeialog ryng-ffydd. Yn agosach i adref, yng Nghymru mae'n golygu canolbwyntio ar ymdrech hyrwyddo, cenhadaeth ysgolion ac adnoddau defosiynol.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu unigolion a chymunedau i ymgysylltu â'r Beibl oherwydd rydym yn credu pan fyddan nhw'n gwneud hynny, gall bywydau newid - er gwell.

Ein Gwaith 

Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i’r argyhoeddiad fod y Beibl yn fyw heddiw. Nid yw’n neges sydd wedi ei ddyddio ond mae’n air sydd yn fyw! Mae hanes, diwylliant ac iaith Cymru wedi eu cysylltu’n agos â’r Beibl. Ond a ydym yn cydnabod ei werth heddiw?

Rydym yn cynnig gweithgareddau, adnoddau amrywiol, a'r Beibl yn Gymraeg, y cyfan er mwyn helpu pobl o bob oed i gydnabod gwerth y Beibl yng Nghymru a’r byd. I weld fwy o’r adnoddau rydym yn ei gynnig, cliciwch yma. 

Cydnabyddwn fod gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i weld y Beibl yn cael ei gynnig i Gymru.  Rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o eglwysi, enwadau a mudiadau cenhadol sydd yn bartneriaid gennym yn ein gwaith. Os ydych yn teimlo’n angerddol am y Beibl yng Nghymru, mi fyddai’n fraint cael cysylltu gyda chi i drafod ffyrdd o gyd-weithio.

Y Beibl Cymraeg

Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwr y Beibl Cymraeg. Yn  2014 cyhoeddwyd Y  Beibl Cymraeg Newydd gyda Mynegair, ac yn 2015 cyhoeddwyd beibl.net mewn print am y tro cyntaf, sef  y cyfieithiad mwyaf newydd o’r Beibl Cymraeg. Roedd awydd pobl ledled Cymru i ddefnyddio cyfieithiad modern ac i’w rannu ag eraill yn gymaint nes bod yr argraffiad cyntaf wedi ei werthu allan drwy archebion ymlaen llaw cyn ei fod wedi cyrraedd y siopau hyd yn oed. Ewch i siop Cymdeithas y Beibl i ganfod mwy am ein Beiblau Cymraeg. Archebwch eich copi heddiw: neu prynwch gopïau i’w rhannu gyda’ch ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol neu eich capeli.

Mae pob un o’r prif gyfieithiadau o’r Beibl Cymraeg hefyd ar gael ar-lein drwy wahanol wefannau ac apiau:

Ap Beibl 

Mae’r Ap Beibl wedi’i greu gyda chymorth Cymdeithas y Beibl er mwyn sicrhau y gallwch gael gafael ar y Beibl ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.

Mae’r ap yn hawdd ei ddefnyddio ac unwaith mae’r ap wedi’i lawr lwytho, nid oes angen cysylltiad i’r we.

Gan fod yr ap yn cynnwys pob cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl, gallwch eu cymharu yn hawdd gan ehangu eich dealltwriaeth.

Mae’r ap ar gael yn rhad ac am ddim i ddyfeisiadau iOS ac Android.

Lawr lwythwch i iOS Lawr lwythwch i Android

Bible.com a You Version

Mae pob un o dri prif gyfieithiad y Beibl Cymraeg hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar bible.com a drwy’r Bible app. Llwythwch i lawr nawr i’w ddefnyddio ar eich gliniadur, llechen neu ffôn.

Cynnyrch Cymraeg

Llwythwch i lawr ein catalog cynnyrch Cymraeg.

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible