Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 47

SALM 47

I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

1Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.

2Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.

3Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed.

4Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.

5Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.

6Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.

7Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.

8Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.

9Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.