Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 46

SALM 46

I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.

1Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:

3Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.

4Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.

5Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a’i cynorthwya yn fore iawn.

6Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.

7Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.

8Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.

9Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.

10Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.

11Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.