Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 9

Duw yn barnu a bendithio cymdogion Israel

1Y neges roddodd yr ARGLWYDD

am ardal Chadrach,

yn arbennig tref Damascus.

(Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth

fel mae ar lwythau Israel i gyd.)

2Ac am Chamath, sy’n ffinio gyda Damascus,

a Tyrus a Sidon hefyd,

sy’n meddwl ei bod mor glyfar.

Notes for verses 1–21 entry

Text notes

3Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf

ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru

arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!

4Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl,

ac yn suddo ei llongau yn y môr.

Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi’n ulw!

Notes for verses 3–41 entry

Cross-references

5Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn.

Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn;

ac Ecron hefyd wedi anobeithio’n llwyr.

Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd,

a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.

6A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod.

Dw i’n mynd i dorri crib y Philistiaid!

Notes for verses 5–61 entry

Text notes

  • Zechariah 9:6 9:5,6 Ashcelon … Gasa … Ecron … Ashdod trefi’r Philistiaid, oedd mewn cynghrair gyda Tyrus. View in passage

7Yna wnân nhw byth eto

fwyta dim gyda gwaed ynddo,

na chig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau.

Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia

yn dod i gredu yn ein Duw –

byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.

A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.

8Bydda i’n gwersylla o gwmpas y deml,

i’w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy’n mynd a dod.

Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl

i’w gormesu nhw byth eto.

Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.

Notes for verses 7–83 entries

Text notes

  • Zechariah 9:7 Jebwsiaid Pobl Jerwsalem cyn i Dafydd goncro’r ddinas (gw. 2 Samuel 5:6-10). Cawson nhw aros a dod yn rhan o Israel (Josua 15:63; Barnwyr 1:21; 1 Brenhinoedd 9:20-21). View in passage

Cross-references

  • Zechariah 9:7 – Genesis 9:4 ; Leviticus 3:17 ; Deuteronomy 12:16

  • Zechariah 9:8 – Deuteronomy 11:12

Y brenin sydd i ddod

9Dathlwch bobl Seion!

Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!

Edrych! Mae dy frenin yn dod.

Mae e’n gyfiawn ac yn achub;

Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,

ie, ar ebol asen.

10Bydda i’n symud y cerbydau rhyfel o Israel,

a mynd â’r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.

Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!

Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i’r gwledydd.

Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,

ac o afon Ewffrates i ben draw’r byd!

Notes for verse 103 entries

Text notes

  • Zechariah 9:10 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Cross-references

11Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad

rhyngon ni, wedi’i selio â gwaed –

dw i’n mynd i ryddhau eich carcharorion

o’r pydew oedd heb ddŵr ynddo.

Notes for verse 111 entry

Text notes

  • Zechariah 9:11 ymrwymiad … gwaed Yr ymrwymiad ar Fynydd Sinai (gw. Exodus 24:7,8). View in passage

12Dewch adre i’r gaer ddiogel,

chi garcharorion – mae gobaith!

Dw i’n cyhoeddi heddiw eich bod i gael

popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!

13Jwda ydy’r bwa dw i’n ei blygu,

ac Israel ydy’r saeth.

Bydda i’n codi dy bobl di, Seion,

yn erbyn gwlad Groeg.

Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr

yn fy llaw.

Notes for verses 12–131 entry

Text notes

14Yna bydd yr ARGLWYDD i’w weld

uwchben ei bobl,

a’i saeth yn tanio fel mellten.

Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu’r corn hwrdd,

ac yn ymosod fel gwynt stormus o’r de.

15Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus

yn amddiffyn ei bobl.

Byddan nhw’n concro’r gelyn gyda ffyn tafl,

ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.

Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth

yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.

Notes for verses 14–151 entry

Text notes

16Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw

yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.

Byddan nhw’n disgleirio ar ei dir

fel cerrig gwerthfawr mewn coron –

17Mor werthfawr! Mor hardd!

Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud

y dynion a’r merched ifanc yn gryf.