Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 10

Yr ARGLWYDD yn addo achub

1Gofynnwch i’r ARGLWYDD am law

adeg tymor cawodydd y gwanwyn –

yr ARGLWYDD sy’n anfon y stormydd.

Bydd yn anfon cawodydd trwm o law

a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.

2Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,

a’r rhai sy’n dweud ffortiwn yn twyllo

– mae eu breuddwydion yn ffals,

a’u cysur yn ddiwerth.

Felly mae’r bobl yn crwydro fel defaid,

heb fugail i’w hamddiffyn.

3“Dw i wedi gwylltio’n lân gyda ‘bugeiliaid’ y gwledydd,

ac yn mynd i’w cosbi nhw – y ‘bychod’ sydd ar y blaen!”

Mae’r ARGLWYDD hollbwerus

yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,

a’u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.

4Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,

Ohonyn nhw daw’r peg i ddal y babell,

Ohonyn nhw daw’r bwa rhyfel,

Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.

5Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr

yn martsio drwy’r mwd ar faes y gâd.

Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,

byddan nhw’n ymladd

ac yn curo cafalri’r gelyn.

6“Dw i’n mynd i wneud teyrnas Jwda’n gryf,

ac achub pobl Israel.

Dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl

a dangos trugaredd atyn nhw –

bydd fel petawn i erioed wedi’u gwrthod nhw.

Fi ydy’r ARGLWYDD eu Duw nhw,

a dw i’n mynd i’w hateb nhw.

7Bydd pobl Israel fel milwyr dewr

yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.

Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,

ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.

Notes for verses 6–72 entries

Text notes

  • Zechariah 10:6 Israel Hebraeg, “teulu Joseff”, sef tad Effraim a Manasse, dau brif lwyth Israel (teyrnas y gogledd). View in passage

  • Zechariah 10:7 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

8Dw i’n mynd i chwibanu

i’w casglu nhw at ei gilydd –

dw i’n eu gollwng nhw’n rhydd!

Bydd cymaint ohonyn nhw ag o’r blaen.

9Er i mi eu gwasgaru drwy’r gwledydd,

byddan nhw’n meddwl amdana i mewn mannau pell –

a byddan nhw a’u plant yn dod yn ôl

10Bydda i’n dod â nhw yn ôl o’r Aifft,

ac yn eu casglu nhw o Asyria;

mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,

a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.

11Byddan nhw’n croesi’r môr stormus,

a bydd e’n tawelu’r tonnau.

Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu,

balchder Asyria’n cael ei dorri,

a’r Aifft yn rheoli ddim mwy.

12Bydda i’n gwneud fy mhobl yn gryf,

a byddan nhw’n byw fel dw i’n dweud,”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.