Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Datguddiad 15

Saith angel gyda saith pla

1Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda’r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai’r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. 2A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai’n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai’r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a’i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i’w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi’u rhoi iddyn nhw, 3ac roedden nhw’n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:

“Mae popeth rwyt yn ei wneud

mor anhygoel a rhyfeddol

Arglwydd Dduw Hollalluog.

Mae beth rwyt yn ei wneud

yn gyfiawn a theg,

Frenin pob oes.

4Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,

a chanmol dy enw di, Arglwydd?

Oherwydd dim ond ti sy’n sanctaidd.

Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod

i addoli o dy flaen di,

oherwydd mae’n amlwg

fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”

5Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‘pabell y dystiolaeth’, ar agor yn y nefoedd. 6Allan ohoni daeth y saith angel gyda’r saith pla. Roedden nhw wedi’u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. 7Wedyn dyma un o’r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o’r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy’n byw am byth bythoedd. 8Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi’r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i’r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.

Notes for verses 5–81 entry

Cross-references