Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Datguddiad 14

Yr Oen a’r 144,000

1Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedair mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau. 2Yna clywais sŵn o’r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e. 3Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a’r pedwar creadur byw a’r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedair mil o bobl oedd wedi’u rhyddhau o’r ddaear oedd yn gallu dysgu’r gân hon. 4Dyma’r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, a heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw’n dilyn yr Oen ble bynnag mae e’n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a’u cyflwyno i Dduw a’r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf. 5Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw’n gwbl ddi-fai.

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

Y tri angel

6Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i’w chyhoeddi i bawb sy’n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil. 7Roedd yn cyhoeddi’n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi’r clod iddo! Mae’r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a’r ffynhonnau dŵr!”

8Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “ Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i’r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”

Notes for verse 81 entry

Cross-references

9Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi’n uchel: “Pwy bynnag sy’n addoli’r anghenfil a’i ddelw, ac sydd â’i farc ar eu talcen neu ar eu llaw, 10bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae’n win cryf ac wedi’i dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw’n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a’r Oen. 11A bydd y mwg o’r tân sy’n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i’r rhai sy’n addoli’r anghenfil a’i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi’i farcio â’i enw.” 12Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu.

13Wedyn clywais lais o’r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae’r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i’r Arglwydd wedi’u bendithio’n fawr!”

“Ydyn wir!” meddai’r Ysbryd, “Byddan nhw’n gorffwys o’u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.”

Cynhaeaf y ddaear

14Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o mlaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law. 15Yna daeth angel arall allan o’r deml a galw’n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi’r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae’n amser medi.” 16Felly dyma’r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio’i gryman ar y ddaear ac yn casglu’r cynhaeaf.

Notes for verses 14–162 entries

Text notes

  • Revelation 14:14 oedd yn edrych fel person dynol: gw. y nodyn ar 1:13. View in passage

Cross-references

17Daeth angel arall allan o’r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog. 18Yna daeth angel arall eto allan o’r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â’r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.” 19Felly dyma’r angel yn defnyddio’i gryman ar y ddaear, ac yn casglu’r cynhaeaf grawnwin a’i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw. 20Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau’r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr.

Notes for verses 17–201 entry

Cross-references