information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 93

Duw, y Brenin

1Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!

Mae wedi’i arwisgo’n hardd.

Mae’r ARGLWYDD wedi’i arwisgo,

a’i gryfder fel gwregys am ei ganol.

Mae’r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!

2Cest dy orseddu’n frenin amser maith yn ôl;

ti wedi bodoli bob amser!

3Roedd y tonnau’n codi’n uchel, O ARGLWYDD,

roedd sŵn y tonnau fel taranau,

sŵn y tonnau trwm yn torri.

4Ond roedd yr ARGLWYDD, sydd yn uwch na’r cwbl,

yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr,

ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.

5Mae dy orchmynion di yn hollol sicr.

Sancteiddrwydd sy’n addurno dy dŷ,

O ARGLWYDD, a hynny am byth!