information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 92

Cân o fawl

Salm. Cân ar gyfer y dydd Saboth.

1Mae’n beth da diolch i’r ARGLWYDD,

a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf.

2Canu yn y bore am dy gariad,

a chyda’r nos am dy ffyddlondeb,

3i gyfeiliant offeryn dectant a nabl

a thannau’r delyn.

4Ti’n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD;

a dw i’n canu’n uchel o achos y cwbl rwyt ti’n wneud.

5Ti’n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD!

Mae dy feddyliau di mor ddwfn.

6Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny;

dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall!

7Mae pobl ddrwg yn llwyddo – ond maen nhw fel glaswellt.

Er bod y rhai sy’n gwneud drwg fel petaen nhw’n blodeuo,

byddan nhw’n cael eu dinistrio am byth!

8Ond ti ydy’r Un sydd uwchlaw popeth,

a hynny am byth, O ARGLWYDD.

9Bydd dy elynion di, ARGLWYDD,

bydd dy elynion di’n cael eu dinistrio!

Bydd pawb sy’n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru!

10Ti wedi fy ngwneud i’n gryf fel ych gwyllt;

ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd.

11Bydda i’n cael gweld y gelynion sy’n fy ngwylio yn cael eu trechu;

a chlywed y rhai drwg sy’n ymosod arna i’n chwalu.

12Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd;

ac yn tyfu’n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus.

13Maen nhw wedi’u plannu yn nheml yr ARGLWYDD,

ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno.

14Byddan nhw’n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw’n hen;

byddan nhw’n dal yn ffres ac yn llawn sudd.

15Maen nhw’n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn –

mae e’n graig saff i mi,

a does dim anghyfiawnder yn agos ato.