information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 80

Gweddi i adfer y genedl

I’r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar “Lilïau’r Dystiolaeth”.

1Gwrando, o fugail Israel

sy’n arwain Joseff fel praidd.

Ti sydd wedi dy orseddu uwchben y cerwbiaid,

disgleiria 2o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse!

Dangos dy nerth i ni, a thyrd i’n hachub!

3Adfer ni, O Dduw!

Gwena’n garedig arnon ni. Achub ni!

Notes for verses 1–31 entry

Cross-references

4O ARGLWYDD Dduw hollbwerus,

am faint mwy rwyt ti’n mynd i fod yn ddig

gyda gweddïau dy bobl?

5Ti wedi’u bwydo nhw â dagrau,

a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.

6Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn;

mae’n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.

7O Dduw hollbwerus, adfer ni!

Gwena’n garedig arnon ni. Achub ni!

8Cymeraist winwydden o’r Aifft,

a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.

9Cliriaist le iddi,

er mwyn iddi fwrw gwreiddiau

a llenwi’r tir.

10Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,

a’i changhennau fel rhai coed cedrwydd.

11Roedd ei changhennau’n cyrraedd at y môr,

a’i brigau at afon Ewffrates.

Notes for verses 8–111 entry

Text notes

12Pam wnest ti fwrw’r wal o’i chwmpas i lawr,

fel bod pwy bynnag sy’n pasio heibio yn pigo’i ffrwyth?

13Mae’r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,

a’r pryfed yn bwyta ei dail.

14O Dduw hollbwerus, tro yn ôl aton ni!

Edrych i lawr o’r nefoedd

ac archwilia gyflwr dy winwydden!

15Ti dy hun wnaeth ei phlannu,

a gwneud iddi dyfu.

16Ond bellach mae hi wedi’i llosgi a’i thorri i lawr!

Mae wedi’i difetha gan dy gerydd di.

17Nertha’r dyn rwyt wedi’i ddewis,

yr un dynol rwyt wedi’i wneud yn gryf.

18Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti.

Adfywia ni, a byddwn ni’n galw ar dy enw.

19O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, adfer ni!

Gwena’n garedig arnon ni. Achub ni!