information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 9

Doethineb a Ffolineb

1Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ;

ac mae wedi naddu saith colofn iddo.

2Mae hi wedi paratoi gwledd,

cymysgu’r gwin,

a gosod y bwrdd.

3Mae hi wedi anfon ei morynion allan

i alw ar bobl drwy’r dre.

4Mae’n dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin,

“Dewch yma, chi bobl wirion!

5Dewch i fwyta gyda mi,

ac yfed y gwin dw i wedi’i gymysgu.

6Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;

dechreuwch gerdded ffordd gall.”

7Ceisia gywiro rhywun balch sy’n gwawdio a chei lond ceg!

Cerydda rywun drwg a byddi’n cael dy gam-drin.

8Cerydda’r un balch sy’n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;

ond os gwnei di geryddu’r doeth bydd e’n diolch i ti.

9Rho gyngor i’r doeth, a byddan nhw’n ddoethach;

dysga’r rhai sy’n byw yn iawn a byddan nhw’n dysgu mwy.

10Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth,

ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.

11Trwof fi byddi di’n cael byw yn hir;

byddi’n cael blynyddoedd ychwanegol.

12Os wyt ti’n ddoeth, mae hynny’n beth da i ti;

ond os wyt ti’n falch, ti fydd yn wynebu’r canlyniadau.

Ffolineb yn galw

13Mae’r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;

mae hi’n wirion, ac yn deall dim byd.

14Mae hi’n eistedd wrth ddrws ei thŷ,

neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.

15Mae hi’n galw ar y rhai sy’n pasio heibio

ac yn meindio’u busnes eu hunain.

16Mae’n dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin,

“Dewch yma, chi bobl wirion!

17Mae dŵr sydd wedi’i ddwyn yn felys,

a bara sy’n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”

18Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna,

a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!