information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 8

Doethineb yn galw

1Mae doethineb yn galw,

a deall yn codi ei lais.

2Mae hi’n sefyll ar fannau uchaf y dref,

wrth ymyl y croesffyrdd,

3ac wrth ymyl giatiau’r ddinas.

Mae hi’n gweiddi wrth y fynedfa,

4“Dw i’n galw arnoch chi i gyd, bobl!

Dw i’n galw ar y ddynoliaeth gyfan.

5Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall;

chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.

6Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i’w dweud;

dw i am ddweud beth sy’n iawn wrthoch chi.

7Dw i bob amser yn dweud y gwir;

mae’n gas gen i gelwydd.

8Mae pob gair dw i’n ei ddweud yn iawn,

does dim twyll, dim celwydd.

9Mae’r peth yn amlwg i unrhyw un sy’n gall,

ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.

10Cymer beth dw i’n ei ddysgu, mae’n well nag arian;

ac mae’r arweiniad dw i’n ei roi yn well na’r aur gorau.”

11Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;

does dim byd tebyg iddi.

12“Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;

fi sy’n dangos y ffordd iawn i bobl.

13Mae parchu’r ARGLWYDD yn golygu casáu’r drwg.

Dw i’n casáu balchder snobyddlyd,

pob ymddygiad drwg a thwyll.

14Fi sy’n rhoi cyngor doeth,

fi ydy’r ffordd orau a fi sy’n rhoi cryfder.

15Fi sy’n rhoi’r gallu i frenhinoedd deyrnasu,

ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.

16Dw i’n galluogi arweinwyr i reoli,

a phobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.

17Dw i’n caru’r rhai sy’n fy ngharu i,

ac mae’r rhai sy’n chwilio amdana i yn fy nghael.

18Dw i’n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,

cyfoeth sy’n para, a thegwch.

19Mae fy ffrwyth i’n well nag aur, ie, aur coeth,

a’r cynnyrch sydd gen i yn well na’r arian gorau.

20Dw i’n dangos y ffordd i fyw’n gyfiawn,

a gwneud beth sy’n iawn ac yn deg.

21Dw i’n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i’r rhai sy’n fy ngharu,

ac yn llenwi eu trysordai nhw.

Notes for verses 12–211 entry

Cross-references

22Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni i

cyn iddo wneud dim byd arall.

23Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,

ar y dechrau cyntaf, cyn i’r ddaear fodoli.

24Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,

a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.

25Doedd y mynyddoedd ddim wedi’u gosod yn eu lle,

a doedd y bryniau ddim yn bodoli.

26Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,

na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.

27Rôn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le,

a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd;

28pan roddodd y cymylau yn yr awyr,

a phan wnaeth i’r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr;

29pan osododd ffiniau i’r môr,

fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;

a phan osododd sylfeini’r ddaear.

30Rôn i yno fel crefftwr,

yn rhoi pleser pur iddo bob dydd

wrth ddawnsio a dathlu’n ddi-stop o’i flaen.

31Rôn i’n dawnsio ar wyneb y ddaear,

ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.

32Nawr, blant, gwrandwch arna i;

mae’r rhai sy’n gwneud beth dw i’n ddweud mor hapus.

33Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud a byddwch ddoeth;

peidiwch troi cefn arno.

34Mae’r rhai sy’n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,

maen nhw’n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,

yn disgwyl i mi ddod allan.

35Mae’r rhai sy’n chwilio amdana i yn cael bywyd;

mae’r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.

36Ond mae’r rhai sy’n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain;

mae pawb sy’n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”