information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 25

Diarhebion Solomon – Casgliad Heseceia

1Diarhebion Solomon ydy’r rhain hefyd, wedi’u casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:

2Braint Duw ydy cadw pethau’n ddirgelwch;

braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.

3Fel mae’r awyr yn rhy uchel, a’r ddaear yn rhy ddofn,

does neb yn gwybod beth sy’n mynd drwy feddwl brenhinoedd.

4Ar ôl gwahanu’r amhuredd o’r arian,

mae’r gof yn gallu creu llestr hardd.

5Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin

bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel.

Notes for verses 4–51 entry

Cross-references

6Paid canmol dy hun o flaen y brenin,

a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.

7Mae’n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”

na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.

8Paid bod ar ormod o frys i fynd i’r llys

am dy fod wedi gweld rhywbeth.

Beth os bydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?

9Trafod y peth yn breifat gyda’r person hwnnw,

a phaid dweud am y peth wrth neb arall.

10Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,

ac i ti gael enw drwg am byth.

11Mae gair o ganmoliaeth

fel gemwaith aur mewn tlws arian.

12Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth

fel modrwy aur neu dlws o aur coeth.

13Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,

fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.

14Cymylau a gwynt, ond dim glaw –

felly mae’r un sy’n brolio’i haelioni, ond byth yn rhoi.

15Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr,

ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.

16Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen,

rhag i ti fwyta gormod, a chwydu’r cwbl i fyny.

17Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml,

rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.

18Mae tyst sy’n dweud celwydd mewn achos llys

yn gwneud niwed fel pastwn neu gleddyf neu saeth finiog.

19Mae trystio rhywun sy’n ddi-ddal mewn amser anodd

fel diodde o’r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed.

20Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist

fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.

21Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;

os ydy e’n sychedig, rho ddŵr iddo i’w yfed.

22Byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,

a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.

23Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,

a thafod sy’n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.

24Mae byw mewn cornel yn yr atig

yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

Notes for verse 242 entries

Text notes

Cross-references

25Mae derbyn newyddion da o wlad bell

fel diod o ddŵr oer i wddf sych.

26Mae dyn da sy’n plygu i ddyn drwg

fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi’i ddifetha.

27Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da,

a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.

28Mae rhywun sy’n methu rheoli ei dymer

fel dinas a’i waliau wedi’u bwrw i lawr.