Obadeia 1
1Gweledigaeth Obadeia.
Dyma beth mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi’i ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i’r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”
Notes for verse 11 entry
Text notes
Obadiah 1:1 Edom Roedd pobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob. View in passage
Bydd Duw yn cosbi Edom
2Mae’r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom:
“Dw i’n mynd i dy wneud di’n wlad fach wan;
byddan nhw’n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!
Ti’n byw yn saff yng nghysgod y graig,
ac mae dy gartref mor uchel nes dy fod yn meddwl,
‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o’r fan yma!’
4Ond hyd yn oed petaet ti’n gallu codi mor uchel â’r eryr,
a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,
bydda i’n dy dynnu di i lawr!”
Notes for verses 2–43 entries
Text notes
Obadiah 1:2 Mae’r … Edom Ddim yn yr Hebraeg, ond wedi’u hychwanegu i wneud y sefyllfa’n glir (gw. diwedd adn. 4). View in passage
Obadiah 1:3 Ti’n byw yn saff … o’r fan yma! Roedd Sela, prifddinas Edom wedi’i hadeiladu ar lwyfandir uchel Wm el-Biara, gyda clogwyni serth ar dair ochr iddi. View in passage
Cross-references
Obadiah 1:4 – 1:1-4 Jeremiah 49:14–16
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
5“Petai lladron yn dod atat ti,
neu ysbeilwyr yn y nos,
fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!
Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw’n gadael rhywbeth i’w loffa?
Ond byddi di’n cael dy ddinistrio’n llwyr!
6Bydd pobl Esau yn colli popeth;
bydd y trysorau gasglon nhw wedi’u dwyn!
Notes for verses 5–62 entries
Text notes
Obadiah 1:6 pobl Esau Disgynyddion Esau (brawd Jacob) oedd pobl Edom – gw. Genesis 36:1,8,19. View in passage
Cross-references
Obadiah 1:5 – Jeremiah 49:9 ; Deuteronomy 24:19–22
7Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;
cei dy yrru at dy ffiniau.
Mae dy ‘helpwyr’ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,
a’r ‘ffrindiau’ oedd yn gwledda gyda ti
wedi gosod trap heb i ti wybod.”
8“Bryd hynny” meddai’r ARGLWYDD,
“bydda i’n difa rhai doeth Edom,
a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;
fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.
Notes for verses 8–91 entry
Text notes
Obadiah 1:9 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi’i henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11. View in passage
Y drwg wnaeth Edom
O achos y lladdfa, 10a’th drais yn erbyn Jacob dy frawd,
bydd cywilydd yn dy orchuddio,
a byddi’n cael dy ddinistrio am byth.
Notes for verses 9–101 entry
Text notes
Obadiah 1:10 Jacob Cyfeiriad at bobl Israel – gw. Genesis 25–29; 32–33; Deuteronomium 23:7. View in passage
11Pan oeddet ti’n sefyll o’r neilltu
tra oedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;
pan oedd byddin estron yn mynd drwy ei giatiau
a gamblo am gyfoeth Jerwsalem,
doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
Notes for verse 111 entry
Text notes
Obadiah 1:11 un ohonyn nhw sef byddin Babilon pan wnaethon nhw goncro Jerwsalem yn 587 CC. View in passage
12Sut allet ti syllu a mwynhau’r
drychineb ddaeth i ran dy frawd?
Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda
ar ddiwrnod eu difa?
Sut allet ti chwerthin
ar ddiwrnod y dioddef?
Notes for verse 121 entry
Cross-references
Obadiah 1:12 – Psalms 137:7
13Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl
ar ddiwrnod eu trychineb?
Syllu a mwynhau eu trallod
ar ddiwrnod eu trychineb.
Sut allet ti ddwyn eu heiddo
ar ddiwrnod eu trychineb?
14Sut allet ti sefyll ar y groesffordd
ac ymosod ar y ffoaduriaid!
Sut allet ti eu rhoi yn llaw’r gelyn
ar ddiwrnod y dioddef?
Barn Duw a buddugoliaeth Israel
15Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos,
a bydda i’n barnu’r cenhedloedd i gyd.
Byddi’n diodde beth wnest ti i eraill;
cei dy dalu’n ôl am beth gafodd ei wneud.
16Fel y gwnaethoch chi yfed
ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi,
bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed –
yfed nes byddan nhw’n chwil.
Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.
Notes for verses 15–162 entries
Cross-references
Obadiah 1:15 – Leviticus 24:20 ; Deuteronomy 19:21
Obadiah 1:16 – Psalms 75:8 ; Isaiah 51:22–23 ; Lamentations 4:21
17Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc
– bydd yn lle cysegredig eto.
Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl
oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.
18Teulu Jacob fydd y tân,
a theulu Joseff fydd y fflamau,
a theulu Esau fydd y bonion gwellt!
Byddan nhw’n eu llosgi a’u difa,
a fydd neb o deulu Esau ar ôl.”
Notes for verses 17–182 entries
Text notes
Obadiah 1:18 teulu Jacob sef, pobl Jwda. View in passage
Obadiah 1:18 teulu Joseff sef, pobl Israel. View in passage
–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.
19Byddan nhw’n cipio’r Negef oddi ar bobl mynydd Esau,
a Seffela oddi ar y Philistiaid.
Byddan nhw’n ennill yn ôl dir Effraim
a’r ardal o gwmpas Samaria,
a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.
20Bydd byddin o bobl Israel o’r gaethglud
yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath;
a phobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell
yn meddiannu pentrefi’r Negef.
Notes for verses 19–203 entries
Text notes
Obadiah 1:19 Seffela Yr iseldir wrth droed y bryniau ar ffin orllewinol Jwda. View in passage
Obadiah 1:19 Gilead Yr ardal i’r dwyrain o afon Iorddonen. Felly mae adn. 19 yn sôn am bobl Dduw yn Jerwsalem yn ennill yn ôl diriogaeth i’r de (Edom), gorllewin (Philistia), gogledd (Effraim) a dwyrain (Gilead). View in passage
Obadiah 1:20 Sareffath Tref ar arfordir Môr y Canoldir, tua 10 milltir i’r de o Sidon. View in passage
21Bydd y rhai gafodd eu hachub
yn mynd i Fynydd Seion
ac yn rheoli Edom –
a’r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.