Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 9

Duw yn barnu

1Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn:

“Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini’n ysgwyd!

Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr,

A bydda i’n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel.

Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc!

2Hyd yn oed tasen nhw’n cloddio i lawr i Fyd y Meirw,

byddwn i’n dal i gael gafael ynddyn nhw!

A thasen nhw’n dringo i fyny i’r nefoedd,

byddwn i’n eu tynnu nhw i lawr oddi yno.

3Petaen nhw’n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel,

byddwn i’n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw.

A thasen nhw’n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr,

byddwn i’n cael y Sarff sydd yno i’w brathu nhw.

4Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i’r gaethglud,

byddwn i’n gorchymyn i’r cleddyf eu lladd nhw yno.

Dw i’n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw

ac nid da.”

Notes for verses 2–41 entry

Text notes

  • Amos 9:3 Sarff Roedd yr anghenfil mytholegol yma yn cynrychioli grymoedd anhrefn. View in passage

5Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus,

ydy’r un sy’n cyffwrdd y ddaear ac mae’n toddi;

a bydd pawb sy’n byw arni yn galaru.

Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl;

yn chwyddo ac yna’n suddo fel yr afon yn yr Aifft.

6Mae e’n adeiladu cartref iddo’i hun yn y nefoedd

ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear.

Mae’n galw’r dŵr o’r môr

ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir

–yr ARGLWYDD ydy ei enw e!

7“I mi, bobl Israel, dych chi

ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.”

Notes for verse 71 entry

Text notes

  • Amos 9:7 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a’r Swdan heddiw. View in passage

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

“Mae’n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft,

ond fi hefyd ddaeth â’r Philistiaid o ynys Creta

a’r Syriaid o Cir.”

8Gwyliwch chi! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD,

yn cadw golwg ar y wlad bechadurus.

“Dw i’n mynd i’w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear!

Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

9“Gwyliwch chi! Bydda i’n rhoi’r gorchymyn

ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd,

fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr,

a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd.

10Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel,

sef y rhai hynny sy’n dweud mor siŵr,

‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni,

na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’

Adfer Teyrnas Dafydd

11Y diwrnod hwnnw, bydda i’n ailsefydlu

teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio.

Bydda i’n trwsio’r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion.

Bydda i’n ei adfer i fod fel roedd yn yr hen ddyddiau.

12Byddan nhw’n cymryd meddiant eto

o’r hyn sydd ar ôl o wlad Edom,

a’r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,”

–meddai’r ARGLWYDD, sy’n mynd i wneud hyn i gyd.

13“Gwyliwch chi!” meddai’r ARGLWYDD, “Mae’r amser yn dod,

pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi’n amser aredig eto

cyn i’r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu!

A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw’n dal i’w sathru

pan fydd yr amser wedi dod i hau’r had eto.

Bydd gwin melys yn diferu o’r mynyddoedd

a bydd yn llifo i lawr y bryniau.

14Bydda i’n dod â’m pobl Israel yn ôl i’w gwlad.

Byddan nhw’n ailadeiladu’r trefi sy’n adfeilion,

ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto.

Byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin.

Byddan nhw’n trin eu gerddi ac yn bwyta’r ffrwythau.

15Bydda i’n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain,

a fydd neb yn eu diwreiddio nhw

o’r wlad dw i wedi’i rhoi iddyn nhw.”

Notes for verses 13–151 entry

Cross-references

–yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy’n dweud hyn.