Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Malachi 4

1Ydy, mae’r diwrnod yn dod;

mae fel ffwrnais yn llosgi.

Bydd yr holl rai haerllug sy’n gwneud drwg

yn cael eu llosgi fel bonion gwellt,

ar y diwrnod sy’n dod,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

“Byddan nhw’n llosgi’n ulw

nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.

2Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio

arnoch chi sy’n fy mharchu i,

a iachâd yn ei belydrau.

Byddwch yn mynd allan,

yn neidio fel llo wedi’i ollwng yn rhydd.

3Byddwch yn sathru’r rhai drwg,

a byddan nhw fel lludw dan eich traed

ar y diwrnod y bydda i’n gweithredu,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

Rhybudd ac Addewid

4Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas;

y rheolau a’r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai

ar gyfer Israel gyfan.

Notes for verse 41 entry

Text notes

  • Malachi 4:4 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai. View in passage

5Edrychwch, dw i’n anfon y proffwyd Elias atoch chi

cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod.

6Bydd yn annog rhieni a phlant i droi’n ôl ata i,

rhag i mi ddod a tharo’r wlad, a’i dinistrio’n llwyr.