Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Malachi 3

1“Edrychwch, dw i’n anfon fy negesydd,

a bydd e’n paratoi’r ffordd ar fy nghyfer i.

Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi’n ei geisio

yn dod i’w deml.

Ydy, mae angel yr ymrwymiad,

dych chi’n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

2Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?

Pwy all oroesi pan ddaw i’r golwg?

Achos mae e fel tân sy’n toddi metel

neu sebon y golchwr.

3Bydd yn eistedd fel un sy’n coethi arian;

ac yn puro disgynyddion Lefi –

bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,

er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i’r ARGLWYDD.

4Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem

yn plesio’r ARGLWYDD

fel roedden nhw ers talwm,

yn yr hen ddyddiau.

5“Dw i’n mynd i ddod atoch chi i farnu;

dw i’n barod i dystio yn erbyn

pawb sydd ddim yn fy mharchu –

y rhai sy’n dewino ac yn godinebu,

sy’n dweud celwydd ar lw,

sy’n gormesu gweithwyr (drwy atal eu cyflog),

yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,

ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

Rhaid troi yn ôl at Dduw

6“Ie, fi ydy’r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,

a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i’ch tad Jacob!”

7“Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,

a ddim yn eu cadw.

Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi”

Notes for verses 6–71 entry

Text notes

  • Malachi 3:7 canrifoedd Hebraeg, “dyddiau eich hynafiaid”. View in passage

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

“Pam bod angen i ni droi’n ôl?” meddech chi.

8“Ydy’n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?

Ac eto dych chi’n dwyn oddi arna i.”

“Sut ydyn ni’n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.

“Drwy gadw’r degymau a’r offrymau.

9Dych chi’n diodde melltith,

am eich bod chi’n dwyn oddi arna i

– ie, y cwbl lot ohonoch chi!

10Dewch â’r degwm llawn i’r stordy,

fel bod yna fwyd yn fy nheml.

Ie, rhowch fi ar brawf,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,

“a chewch weld y bydda i’n agor llifddorau’r nefoedd

ac yn tywallt bendith arnoch chi;

fyddwch chi’n brin o ddim byd!

11Bydda i’n cael gwared â’r locustiaid,

rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau’r tir;

fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

12“Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud

eich bod wedi’ch bendithio,

am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

Bydd Duw yn bendithio’r rhai ffyddlon

13“Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

“Beth ydyn ni wedi’i ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.

14“Chi’n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.

Beth ydyn ni wedi’i ennill o wrando arno

a mynd o gwmpas yn edrych yn drist

o flaen yr ARGLWYDD hollbwerus?

15Mae’r bobl sy’n haerllug yn hapus! –

maen nhw’n gwneud drwg ac yn llwyddo;

maen nhw’n herio Duw ac yn dianc!’”

16Ond yna, dyma’r rhai oedd wir yn parchu’r ARGLWYDD yn trafod gyda’i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o’r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy’n rhestru’r rhai sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.

17“Nhw fydd fy mhobl i,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,

“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy’n dod.

Bydda i’n gofalu amdanyn nhw

fel mae tad yn gofalu am fab sy’n gweithio iddo.

18Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth

rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg,

rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw

a’r rhai sydd ddim.