Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jona 3

Jona’n mynd i Ninefe

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto. 2“Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi’r neges dw i’n ei rhoi i ti.” 3A’r tro yma dyma Jona’n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau. Aeth yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi’n cymryd tri diwrnod i gerdded drwyddi!) 4Ar ôl cerdded drwyddi am ddiwrnod, dyma Jona’n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio! ”

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

  • Jonah 3:4 dinistrio: Hebraeg, “troi drosodd”, y gellid ei gyfieithu hefyd fel trawsnewid. View in passage

5Credodd pobl Ninefe neges Duw. A dyma nhw’n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain – y bobl gyfoethog a’r tlawd. 6Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o’i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw. 7-8A dyma fe’n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae’r brenin a’i swyddogion yn ei orchymyn:

Notes for verses 5–81 entry

Text notes

  • Jonah 3:6 rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw roedd pobl yn gwneud hyn i ddangos eu bod nhw’n sori am wneud pethau drwg. View in passage

Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na’r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid).

Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed roi sachliain ar yr anifeiliaid.

Mae pawb i weddïo’n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.

9Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a fydd dim rhaid i ni farw.”

10Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw’n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.