Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jona 2

Jona yn gweddïo ar Dduw

1Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.

2Rôn i mewn trafferthion;

dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD,

a dyma fe’n fy ateb i.

Gwaeddais am dy help di,

o ganol byd y meirw,

a dyma ti’n gwrando arna i!

3Teflaist fi i’r dyfnder;

i waelod y môr.

Roedd y cerrynt o’m cwmpas,

a’r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.

4Rôn i’n meddwl fy mod i wedi cael

fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,

ac y byddwn i byth yn cael gweld

dy deml sanctaidd di eto!

5Rôn i bron boddi –

roedd y môr dwfn o’m cwmpas,

a gwymon wedi lapio am fy mhen.

6Rôn i wedi suddo

at waelod isa’r mynyddoedd.

Roedd giatiau’r ddaear ddofn

wedi cloi tu ôl i mi am byth.

Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw,

yn fy achub i o’r Pwll dwfn.

7Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,

dyma fi’n galw arnat ti, ARGLWYDD;

a dyma ti’n gwrando ar fy ngweddi

o dy deml sanctaidd.

8Mae’r rhai sy’n addoli eilunod diwerth

yn troi cefn ar dy drugaredd di.

9Ond dw i am offrymu aberth i ti,

a chanu mawl i ti’n gyhoeddus.

Bydda i’n gwneud beth dw i wedi’i addo!

Yr ARGLWYDD ydy’r un sy’n achub!

10Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.