Joel 3
Yr ARGLWYDD yn barnu’r cenhedloedd
1Bryd hynny, bydda i’n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.
2Yna bydda i’n casglu’r cenhedloedd i gyd
i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD ”
Yno bydda i’n eu barnu nhw
am y ffordd maen nhw wedi trin
fy mhobl arbennig i, Israel.
Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,
rhannu y tir rois i iddyn nhw
3a gamblo i weld pwy fyddai’n eu cael nhw’n gaethion.
Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,
a merch fach am win i’w yfed.
Notes for verses 2–32 entries
Text notes
Joel 3:2 Dyffryn Barn yr ARGLWYDD Hebraeg, “Dyffryn Jehosaffat”, sy’n golygu “Y dyffryn lle mae’r ARGLWYDD yn barnu”. View in passage
Cross-references
Joel 3:2 – Ezekiel 12:5 ; Ezekiel 22:15 ; Ezekiel 36:19
4Pam wnaethoch chi’r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi’n ceisio talu’n ôl i mi? Byddwch chi’n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! 5Dwyn fy arian a’m aur, a rhoi’r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. 6Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i’r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o’u gwlad eu hunain. 7Wel, dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl. A bydda i’n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! 8Bydda i’n rhoi’ch meibion a’ch merched chi i bobl Jwda i’w gwerthu. Byddan nhw’n eu gwerthu nhw i’r Sabeaid sy’n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!
Notes for verses 4–82 entries
Text notes
Joel 3:4 Tyrus a Sidon Dwy dref ar arfordir Phoenicia. View in passage
Joel 3:8 Sabeaid Pobl Seba, ardal yn ne-orllewin Arabia. View in passage
Dyffryn Barn yr ARGLWYDD
9Cyhoedda wrth y cenhedloedd:
Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.
Galwch eich milwyr gorau!
Dewch yn eich blaen i ymosod!
10Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,
a’ch crymanau tocio yn waywffyn.
Bydd rhaid i’r ofnus ddweud, “Dw i’n filwr dewr!”
Notes for verses 9–101 entry
Text notes
Joel 3:10 Curwch … waywffyn Yn wahanol i Eseia 2:4 a Micha 4:3, yma mae offer ffermio yn cael eu troi yn arfau rhyfel. Mae Eseia a Micha yn cyfeirio at yr heddwch sydd i ddod, ond mae Joel yn sôn am gyfnod o farn. View in passage
11Brysiwch! Dewch, chi’r gwledydd paganaidd i gyd.
Dewch at eich gilydd yno!
(“ ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)
12Dewch yn eich blaen, chi’r cenhedloedd,
i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD.
Yno bydda i’n eistedd i lawr
i farnu’r cenhedloedd i gyd.
Notes for verses 11–122 entries
Text notes
Joel 3:11 ARGLWYDD … yno! Mae’r weddi yma (gan y proffwyd?) yn torri ar draws yr alwad i’r cenhedloedd paganaidd. Mae’n weddi ar Dduw i anfon ei fyddin nefol i ddelio gyda nhw. View in passage
Joel 3:12 Dyffryn Barn yr ARGLWYDD gw. nodyn ar 3:2. View in passage
13Mae’r cynhaeaf yn barod
i’w fedi gyda’r cryman!
Mae’r winwasg yn llawn grawnwin
sy’n barod i’w sathru!
Bydd y cafnau yn gorlifo!
Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
14Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!
Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!
Notes for verses 13–141 entry
Text notes
Joel 3:13 sathru Roedd pobl yn sathru grawnwin gyda’i traed, i wasgu’r sudd allan. View in passage
15Mae’r haul a’r lleuad wedi tywyllu,
a’r sêr wedi diflannu.
16Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion;
a’i lais yn taranu o Jerwsalem,
nes bod yr awyr a’r ddaear yn crynu.
Ond mae’r ARGLWYDD yn lle saff i’w bobl guddio ynddo,
mae e’n gaer ddiogel i bobl Israel.
17Byddwch chi’n deall mai fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw
a’m bod i’n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.
Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,
a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.
Adfer Jwda a Jerwsalem
18Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o’r mynyddoedd,
a llaeth yn llifo o’r bryniau;
fydd nentydd Jwda byth yn sychu.
Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo
allan o deml yr ARGLWYDD,
i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia.
Notes for verse 183 entries
Text notes
Joel 3:18 Dyffryn y Coed Acasia Hebraeg, “Dyffryn Sittim”. Mae coed Acasia yn gallu tyfu ar dir sych iawn. Falle ei fod yn cyfeirio at wadi sych iawn rhywle yn ardal Jerwsalem. View in passage
Cross-references
19Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,
a lladd pobl ddiniwed yno,
bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag
ac Edom yn anialwch llwm.
20Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,
ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i’r llall.
21Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?
Gwnaf! Bydda i’n eu cosbi nhw.
Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!