Amos 1
1Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa.
Notes for verse 11 entry
Text notes
Amos 1:1 Tecoa Pentref ym mryniau Jwda, tua chwe milltir i’r de o Bethlehem. View in passage
Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel.
Notes for verse 13 entries
Text notes
Amos 1:1 Ddwy flynedd cyn y daeargryn Daeargryn ddigwyddodd yn 760 CC mae’n debyg. Byddai’r daeargryn yn cael ei ystyried yn arwydd fod barn Duw ar ei ffordd. View in passage
Amos 1:1 Wseia … Jeroboam Wseia, brenin Jwda 781–740 CC Jeroboam II, brenin Israel 783–743 CC. View in passage
Cross-references
Amos 1:1 – 2 Kings 15:1–7 ; 2 Chronicles 26:1–23 ; 2 Kings 14:23–29
2Dyma ddwedodd Amos:
“Mae’r ARGLWYDD yn rhuo o Seion,
a’i lais yn taranu o Jerwsalem,
nes bod porfa’r anifeiliaid yn gwywo,
a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.”
Notes for verse 21 entry
Cross-references
Amos 1:2 – Joel 3:16
Barn Duw ar y gwledydd o gwmpas Israel
Syria
3Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,
a’u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.
4Felly bydda i’n llosgi’r palas gododd y Brenin Hasael,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.
5Bydda i’n dryllio barrau giatiau Damascus,
yn cael gwared â’r un sy’n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,
a’r un sy’n teyrnasu yn Beth-eden.
Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.”
Notes for verses 3–54 entries
Text notes
Amos 1:3 Damascus Prifddinas Syria. View in passage
Amos 1:4 Hasael brenin Syria o 842 i 805 CC gw. 1 Brenhinoedd 19:15. View in passage
Amos 1:4 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18,20; 2 Brenhinoedd 13:24). Gall fod yn cyfeirio at fab Hasael, wnaeth ei olynu fel brenin (2 Brenhinoedd 13:3,24) neu at frenin wnaeth ei ragflaenu (gw. 1 Brenhinoedd 20. Ystyr yr enw ydy “mab Hadad”. Hadad oedd Duw’r storm. View in passage
Cross-references
Amos 1:5 – 2 Kings 16:9
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Philistia
6Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,
a’u gwerthu nhw i wlad Edom,
7Felly bydda i’n llosgi waliau Gasa,
a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol.
8Bydda i’n cael gwared â’r un sy’n llywodraethu yn ninas Ashdod
a’r un sy’n teyrnasu yn Ashcelon.
Bydda i’n ymosod ar ddinas Ecron,
nes bydd neb o’r Philistiaid ar ôl yn fyw!”
Notes for verses 6–82 entries
Text notes
Amos 1:6 Gasa Un o brif drefi y Philistiaid. View in passage
Amos 1:8 Ashdod … Ashcelon … Ecron Trefi y Philistiaid. View in passage
–fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy’n dweud hyn.
Tyrus
9Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi torri’r cytundeb gyda’u brodyr
drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth,
a’u gwerthu nhw i wlad Edom,
10Felly bydda i’n llosgi waliau Tyrus,
a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol.”
Edom
11Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda’r cleddyf
a dangos dim trugaredd atyn nhw.
Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt
heb stopio’r trais o gwbl,
12dw i’n mynd i anfon tân i losgi Teman,
a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”
Notes for verses 11–122 entries
Text notes
Amos 1:11 eu brodyr Roedd pobl Israel yn ddisgynyddion i Jacob, a phobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob. View in passage
Amos 1:12 Teman a Bosra sef Edom; roedd Teman yn dref bwysig yng ngogledd Edom (wedi’i henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11). Bosra oedd prifddinas gogledd Edom, tua 30 milltir i’r de-ddwyrain o’r Môr Marw. View in passage
Ammon
13Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i’n mynd i’w cosbi nhw.
Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gilead
er mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw’u hunain.
14Felly bydda i’n llosgi waliau Rabba,
a bydd y tân yn dinistrio’i chaerau amddiffynnol.
Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr,
pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm,
15bydd eu brenin a’i holl swyddogion
yn cael eu cymryd yn gaeth gyda’i gilydd.”
Notes for verses 13–151 entry
Text notes
Amos 1:14 Rabba Prifddinas Ammon. View in passage
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.