information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 2

Duw yn pledio ar Jwda i newid ei ffyrdd

1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi: 2“Dos, a gwna’n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

‘Dw i’n cofio mor awyddus oeddet ti i’m plesio i,

a’r cariad roeddet ti’n ei ddangos,

fel merch ifanc ar fin priodi.

Dyma ti’n fy nilyn i drwy’r anialwch

mewn tir oedd heb ei drin.

3Roedd Israel wedi’i chysegru i’r ARGLWYDD,

fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf.

Roedd pawb oedd yn ei chyffwrdd

yn cael eu cyfri’n euog,

a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Pechod yr hynafiaid

4Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, bobl Jacob – llwythau Israel i gyd. 5Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Pa fai gafodd eich hynafiaid yno i

eu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i?

Dilyn delwau diwerth,

a gwneud eu hunain yn dda i ddim.

6Wnaethon nhw ddim gofyn,

‘Ble mae’r ARGLWYDD

ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft,

a’n harwain ni drwy’r anialwch –

ein harwain drwy dir diffaith

oedd yn llawn tyllau, tir sych a thywyll,

tir does neb yn mynd drwyddo,

a lle does neb yn byw?’

7Des i â chi i dir ffrwythlon

a gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a’i gynnyrch da.

Ond pan aethoch i mewn yno

dyma chi’n llygru’r tir,

a gwneud y wlad rois i’n etifeddiaeth i chi

yn ffiaidd yn fy ngolwg i.

8Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,

‘Ble mae’r ARGLWYDD?’

Doedd y rhai sy’n dysgu’r Gyfraith

ddim yn fy nabod i.

Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,

a’r proffwydi’n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,

ac yn dilyn delwau diwerth.

Notes for verses 7–82 entries

Text notes

Cross-references

Achos Duw yn erbyn ei bobl

9Felly, dyma fi eto’n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,

a bydda i’n cyhuddo eich disgynyddion chi hefyd.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

10“Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld,

neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.

Ydy’r fath beth wedi digwydd erioed o’r blaen?

11Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?

(A dydy’r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)

Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,

am ‘dduwiau’ sy’n ddim ond delwau diwerth.

12Mae’r nefoedd mewn sioc

fod y fath beth yn gallu digwydd!

Mae’n ddychryn! Mae’r peth yn syfrdanol!”

Notes for verses 10–121 entry

Text notes

  • Jeremiah 2:10 Ewch … i ymchwilio h.y. edrychwch yn unrhyw le o’r gorllewin pell i’r dwyrain pell. View in passage

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

13“Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:

maen nhw wedi troi cefn arna i,

y ffynnon o ddŵr glân gloyw,

a chloddio pydewau iddyn nhw’u hunain –

pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”

Canlyniadau troi cefn ar Dduw

14“Ydy Israel yn gaethwas? Na!

Gafodd e ei eni’n gaethwas? Naddo!

Felly, pam mae e’n cael ei gipio gan y gelyn?

15Mae’r gelyn yn rhuo drosto

fel llewod ifanc yn rhuo’n swnllyd.

Mae’r wlad wedi’i difetha,

a’i threfi’n adfeilion

heb neb yn byw yno bellach.

16A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanches

i siafio’ch pennau chi, bobl Israel.

17Ti, Israel, ddaeth â hyn arnat dy hun,

drwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw

pan oedd e’n dangos y ffordd i ti.

Notes for verses 14–171 entry

Text notes

  • Jeremiah 2:16 siafio’ch pennau chi h.y. i’w cywilyddio nhw a’u gwneud yn gaethweision. View in passage

18Felly beth ydy pwynt mynd i lawr i’r Aifft

neu droi at Asyria am help?

Ydy yfed dŵr afon Nîl neu’r Ewffrates

yn mynd i dy helpu di?

19Bydd dy ddrygioni’n dod â’i gosb,

a’r ffaith i ti droi cefn arna i

yn dysgu gwers i ti.

Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw

a dangos dim parch tuag ata i

yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,”

Notes for verses 18–191 entry

Text notes

  • Jeremiah 2:18 afon Nîl Hebraeg, Shichor (sef cangen ddwyreiniol afon Nîl). View in passage

–meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.

Pobl Dduw yn addoli Baal

20“Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy war

a dryllio’r rhaffau oedd yn dy rwymo;

ond dyma ti’n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’

Felly addolaist dy ‘dduwiau’ ar ben pob bryn

a than pob coeden ddeiliog,

a gorweddian ar led fel putain.

21Rôn i wedi dy blannu di yn y tir

fel gwinwydden arbennig o’r math gorau.

Sut wnest ti droi’n winwydden wyllt

a’i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd?

22Gelli drio defnyddio powdr golchi

a llwythi o sebon i geisio ymolchi,

ond dw i’n dal i weld staen dy euogrwydd di.”

Notes for verses 21–221 entry

Cross-references

–y Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

23“Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan.

Wnes i ddim addoli duwiau Baal’?

Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn!

Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriad

a ddim yn gwybod ble i droi!

24Rwyt fel asen wyllt wedi’i magu yn yr anialwch

yn sniffian yr awyr am gymar pan mae’n amser paru.

Does dim modd ei dal hi’n ôl pan mae’r nwyd yna.

Does dim rhaid i’r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl,

mae hi yna’n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.

Notes for verses 23–241 entry

Text notes

  • Jeremiah 2:23 y dyffryn Cyfeiriad at Ddyffryn Hinnom – gw. 2 Brenhinoedd 23:10; Jeremeia 7:31; 19:2-6; 32:35. View in passage

25Paid gadael i dy esgidiau dreulio

a dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill.

Ond meddet ti, ‘Na, does dim pwynt!

Dw i’n caru’r duwiau eraill yna,

a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’

Cywilydd ar bobl Israel

26Fel lleidr, dydy Israel ddim ond yn teimlo cywilydd

pan mae wedi cael ei ddal!

Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi

– maen nhw i gyd yr un fath.

27Maen nhw’n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’

ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i’r byd!’

Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna i

yn lle troi ata i.

Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthion

maen nhw’n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’

28Felly, ble mae’r duwiau rwyt ti wedi’u gwneud i ti dy hun?

Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw,

pan wyt ti mewn trafferthion!

Wedi’r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiau

ag sydd gen ti o drefi!

29Pam dych chi’n rhoi’r bai arna i?

Chi ydy’r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

30“Dyma fi’n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt;

doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro.

Chi eich hunain laddodd eich proffwydi

fel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”

31Bobl, gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud!

“Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel?

Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi?

Felly, pam mae fy mhobl yn dweud,

‘Dŷn ni’n rhydd i wneud beth leiciwn ni.

Dŷn ni ddim am droi atat byth eto’?

32Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo’i thlysau?

Ydy priodferch yn anghofio’i gwisg briodas?

Na! – Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i

ers gormod o flynyddoedd i’w cyfri.

33Ti’n un da iawn

am redeg ar ôl dy gariadon.

Byddai’r butain fwya profiadol

yn dysgu lot fawr gen ti!

34Ar ben hynny, mae olion gwaed

y tlawd a’r diniwed ar eich dillad,

er eich bod chi ddim wedi’u dal nhw

yn torri i mewn i’ch tai.

Notes for verses 33–341 entry

Cross-references

Ac eto, er gwaetha’r cwbl 35ti’n dal i ddweud,

‘Dw i wedi gwneud dim byd o’i le;

does bosib ei fod e’n dal yn ddig hefo fi!’

Gwylia dy hun! Dw i’n mynd i dy farnu di

am ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’

36Pam wyt ti’n ei chael hi mor hawdd newid ochr?

Gofyn am help un, ac wedyn y llall!

Byddi di’n cael dy siomi gan yr Aifft

yn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria.

37Byddi’n dod allan o’r sefyllfa yma

hefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd.

Mae’r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti’n pwyso arnyn nhw;

fyddi di ddim yn llwyddo gyda’u help nhw.