information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 1

1. Bydd Duw yn cosbi Jwda

(1:1–12:17)

Cyflwyniad

1Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). 2Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. 3Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia, yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

Notes for verses 1–38 entries

Text notes

  • Jeremiah 1:1 Anathoth Tref, neu bentref, oedd ryw dair milltir i’r gogledd-ddwyrain o Jerwsalem. (Ras el-Charwbe, sydd tua hanner milltir i’r de o Anata heddiw). View in passage

  • Jeremiah 1:2 Joseia yn frenin o 640 i 609 CC. View in passage

  • Jeremiah 1:3 Jehoiacim yn frenin o 609 i 598 CC. View in passage

  • Jeremiah 1:3 Sedeceia yn frenin o 598 i 587 CC. View in passage

  • Jeremiah 1:3 pumed mis Af, sef pumed mis y calendr Hebreig, o tua canol Gorffennaf i ganol Awst. View in passage

Cross-references

  • Jeremiah 1:2 – 2 Brenhinoedd 22:3–23:27; 2 Cronicl 34:8–35:19

  • Jeremiah 1:3 – 2 Brenhinoedd 23:36–24:7; 2 Chronicles 36:5–8

  • Jeremiah 1:3 – 2 Brenhinoedd 24:18–25:21; 2 Chronicles 36:11–21

Duw yn galw Jeremeia i fod yn broffwyd

4Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi:

5“Rôn i’n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth,

ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni,

a dy benodi di’n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”

6“O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i’n rhy ifanc.” 7Ond dyma’r ARGLWYDD yn ateb,

“Paid dweud, ‘Dw i’n rhy ifanc.’

Byddi di’n mynd i ble dw i’n dy anfon di

ac yn dweud beth dw i’n ddweud wrthot ti.

8Paid bod ag ofn pobl,” meddai’r ARGLWYDD

“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”

9Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,

“Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.

10Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw

a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.

Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu,

yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,

yn adeiladu ac yn plannu.”

Dwy weledigaeth

11Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld cangen o goeden almon.” 12A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i’n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir.”

Notes for verses 11–122 entries

Text notes

  • Jeremiah 1:11 coeden almon Hebraeg, shaced. Y goeden almon oedd yn gyntaf i flodeuo yn y gwanwyn. View in passage

  • Jeremiah 1:12 Hebraeg, shoced. View in passage

13Yna’r ail waith dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” 14“Ie,” meddai’r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. 15Edrych, dw i’n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

“‘Byddan nhw’n gosod eu gorseddau

wrth giatiau Jerwsalem.

Byddan nhw’n ymosod ar y waliau o’i chwmpas,

ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’

16“Bydda i’n cyhoeddi’r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi’i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi’u gwneud gyda’i dwylo eu hunain!

17“Ond ti, Jeremeia, bydd di’n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod â’u hofn nhw, neu bydda i’n dy ddychryn di o’u blaenau nhw. 18Ond heddiw dw i’n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi’n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a’i phobl. 19Byddan nhw’n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai’r ARGLWYDD.