information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 56

Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw

1Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Gwnewch beth sy’n iawn! Gwnewch beth sy’n deg!

Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.

2Y fath fendith fydd i’r bobl sy’n gwneud hyn,

a’r rhai hynny sy’n dal gafael yn y peth –

y rhai sy’n cadw’r Saboth, heb ei wneud yn aflan,

ac yn stopio’u hunain rhag gwneud drwg.

3Ddylai’r estron sydd wedi ymrwymo i’r ARGLWYDD ddim dweud:

‘Mae’r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i’w bobl.’

A ddylai’r eunuch ddim dweud,

‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’”

Notes for verse 31 entry

Text notes

  • Isaiah 56:3 eunuch dyn wedi’i ysbaddu (ei bidyn wedi’i dorri i ffwrdd), oedd yn gweithio fel swyddog neu was ystafell ym mhalas y brenin. View in passage

4Achos dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“I’r eunuchiaid hynny sy’n cadw fy Sabothau

– sy’n dewis gwneud beth dw i eisiau

ac yn glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i –

5dw i’n mynd i godi cofeb

yn fy nhŷ, y tu mewn i’w waliau:

rhywbeth gwell na meibion a merched,

a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.

6Ac i’r bobl estron sydd wedi ymrwymo

i wasanaethu’r ARGLWYDD, ei garu,

a dod yn weision iddo –

pawb sy’n cadw’r Saboth heb ei wneud yn aflan,

ac sy’n glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i –

7Bydda i’n eu harwain at fy mynydd cysegredig

i ddathlu’n llawen yn fy nhŷ gweddi.

Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i’w llosgi

ac aberthau i’w cyflwyno ar fy allor i;

achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw

yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.”

Notes for verses 6–71 entry

Text notes

8Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy’n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i’n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi’u casglu.”

Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad

9“Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt!

Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!

10Mae’r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim.

Maen nhw fel cŵn mud sy’n methu cyfarth –

yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.

11Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus

sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;

bugeiliaid sy’n deall dim!

Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,

ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.

12‘Dewch, dw i am nôl gwin!

Gadewch i ni feddwi ar gwrw!

Cawn wneud yr un fath yfory –

bydd hyd yn oed yn well!’

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

  • Isaiah 56:10 gwylwyr cyfeiriad at yr offeiriaid a’r proffwydi, sef yr arweinwyr ysbrydol, mae’n debyg. View in passage