information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 55

Gwahoddiad yr ARGLWYDD

1“Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!

Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!

Prynwch a bwytwch.

Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!

2Pam gwario’ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,

a’ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?

Gwrandwch yn ofalus arna i!

Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.

3Gwrandwch arna i, a dewch yma.

Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!

Bydda i’n gwneud ymrwymiad hefo chi

fydd yn para am byth –

fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.

4Gwnes i e’n dyst i bobloedd,

yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”

5Byddi di’n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,

a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di

yn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw,

Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.

Notes for verses 2–52 entries

Cross-references

  • Isaiah 55:3 – Jeremiah 31:31 ; Jeremiah 32:40 ; Ezekiel 16:60 ; Ezekiel 37:26

  • Isaiah 55:3 – Psalms 89:49

6Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael!

Galwch arno tra mae’n agos!

7Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,

a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau –

troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;

troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.

8Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi,

a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â’ch ffyrdd chi

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

9Fel mae’r nefoedd gymaint uwch na’r ddaear,

mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chi,

a’m bwriadau i yn well na’ch bwriadau chi.

10Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr

a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear

gan wneud i blanhigion dyfu

a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta,

11felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi:

dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –

mae’n gwneud beth dw i eisiau,

ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.

12Ie, byddwch chi’n mynd allan yn llawen

ac yn cael eich arwain mewn heddwch.

Bydd y mynyddoedd a’r bryniau’n bloeddio canu o’ch blaen,

a’r coed i gyd yn curo dwylo.

13Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,

a llwyni myrtwydd yn lle mieri.

Byddan nhw’n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD,

fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.