information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 35

Ysblander Duw yn dod i’r golwg

1Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen,

bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo –

yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.

2Bydd yn dathlu’n llawen ac yn gweiddi;

bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi,

a harddwch Carmel a Saron.

Byddan nhw’n gweld ysblander yr ARGLWYDD,

a harddwch ein Duw ni.

3Cryfhewch y dwylo llesg;

a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn.

4Dwedwch wrth y rhai ofnus,

“Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn.

Edrychwch ar eich Duw – mae e’n dod i ddial ar eich gelynion!

Y tâl dwyfol!

Ydy, mae e’i hun yn dod i’ch achub chi!”

5Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,

a chlustiau pobl fyddar hefyd.

6Bydd y cloff yn neidio fel hydd,

a’r mud yn gweiddi’n llawen!

Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,

ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.

7Bydd y tywod poeth yn troi’n bwll dŵr,

a’r tir sych yn ffynhonnau’n ffrydio.

Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian

yn troi’n gorsydd o frwyn.

8Bydd priffordd, ie, ffordd yno

sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd’.

Fydd neb sy’n aflan yn cael teithio arni –

mae ar gyfer y rhai sy’n cerdded y Ffordd.

Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.

9Fydd dim llew yno,

a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati –

fydd dim i’w gael yno.

Ond bydd y rhai sydd wedi’u rhyddhau

yn cerdded ar ei hyd.

10Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd

yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!

Bydd y llawenydd sy’n para am byth

yn goron ar eu pennau!

Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd,

am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.