information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 24

Cosbi’r wlad

1Edrych! Mae’r ARGLWYDD

yn difetha’r tir a’i adael yn wag!

Mae’n ei droi â’i ben i lawr,

ac yn gwasgaru’r rhai sy’n byw arno.

2Bydd yr un peth yn digwydd

i’r offeiriad ac i’r bobl gyffredin,

i’r gwas a’i feistr,

i’r forwyn a’i meistres,

i’r gwerthwr a’r prynwr,

i’r benthyciwr a’r un sy’n benthyg,

i’r credydwr a’r un mewn dyled.

3Bydd y tir yn hollol wag – wedi’i ysbeilio’n llwyr.

Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud.

4Mae’r tir yn sych; mae’n gwywo.

Mae’r byd yn gwanio; mae’n gwywo.

Mae ei phobl bwysica yn wan.

5Mae’r tir ei hun wedi’i lygru

gan y rhai sy’n byw arno.

Maen nhw wedi anwybyddu’r ddysgeidiaeth,

newid y deddfau, a thorri’r ymrwymiad oedd i fod am byth.

6Dyna pam mae’r wlad wedi’i melltithio’n llwyr,

a’i phobl yn cael eu cosbi.

Dyna pam mae’r rhai sy’n byw ar y tir wedi diflannu,

nes bod bron neb ar ôl.

7Mae’r sudd grawnwin yn sychu

a’r coed gwinwydd yn gwywo,

a’r holl hwyl a’r miri’n troi’n riddfan.

8Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi,

yr holl firi swnllyd wedi peidio,

a sain hyfryd y delyn yn dawel.

9Does neb yn canu wrth yfed gwin,

ac mae’r cwrw yn blasu’n chwerw.

10Dinas mewn anhrefn wedi’i dryllio!

Pob tŷ wedi’i gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo.

11Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd:

mae pob hwyl wedi peidio,

a miri wedi’i daflu allan o’r wlad.

12Mae’r ddinas wedi’i gadael mewn llanast llwyr,

a’i giatiau wedi’u dryllio’n ddarnau.

13Fel yna bydd hi yn y tir,

ymhlith y gwledydd:

Fel coeden olewydd sy’n cael ei hysgwyd,

a’r lloffa sy’n digwydd pan mae’r cynhaeaf grawnwin drosodd.

14Ond bydd rhai’n codi eu lleisiau

ac yn gweiddi’n llawen!

Bydd rhai’n canu clod o’r gorllewin

am fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.

15Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrain

ac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin –

addolwch enw’r ARGLWYDD, Duw Israel.

16Mae canu i’w glywed o ben draw’r byd:

“Mae’r Un Cyfiawn mor wych!”

Ond wedyn dw i’n dweud:

“Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi!

Mae bradwyr yn bradychu!

Bradwyr yn bradychu â’u brad!”

17Panig, pydew a thrap

i bawb sy’n byw yn y wlad!

18Bydd pawb sy’n ffoi mewn dychryn

yn disgyn i lawr i dwll.

A bydd pawb sy’n dringo o’r twll

yn cael ei ddal mewn trap!

Notes for verses 16–181 entry

Cross-references

Mae’r llifddorau wedi’u hagor yn yr awyr,

ac mae sylfeini’r ddaear yn crynu.

19Mae’r tir wedi cracio drosto;

mae wedi hollti’n ddarnau,

ac yn cael ei erydu’n llwyr.

20Mae’r tir yn gwegian fel meddwyn,

ac yn sigledig fel cwt gwyliwr.

Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd,

bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!

21Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD

yn cosbi pwerau’r awyr uchod

a brenhinoedd y ddaear isod.

22Byddan nhw’n cael eu casglu at ei gilydd

fel carcharorion mewn dwnsiwn,

a’u cloi yn y carchar,

i wynebu eu tynged ar ôl amser hir.

23Bydd y lleuad yn cywilyddio a’r haul yn swil,

pan fydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn teyrnasu

ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,

yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.