information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 21

Cwymp Babilon

1Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon):

Fel y gwyntoedd stormus sy’n rhuthro drwy’r Negef,

mae e’n dod o’r anialwch, o wlad sydd i’w hofni.

2Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi:

“Mae’r bradwr yn bradychu, a’r dinistrydd yn dinistrio!

Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media!

Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi’i achosi.”

3Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;

Mae poenau yn gafael yno i

fel gwraig mewn poen wrth gael babi.

Dw i wedi fy llethu gan beth dw i’n ei glywed,

ac wedi dychryn gan beth dw i’n ei weld.

4Mae’r galon yn pwmpio a dw i’n crynu mewn panig.

Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi’n hunllef:

5Mae “Trefnwch wledd”

wedi troi’n “Gosodwch wylwyr!”

“Bwytwch ac yfwch!”

wedi troi’n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!”

6Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:

“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,

a dweud beth mae’n ei weld.

7Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,

marchog ar asyn neu farchog ar gamel,

dylai ddal sylw a gwylio’n ofalus.”

8Yna mae’r gwyliwr yn gweiddi’n uchel:

“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy’r dydd,

ac wedi edrych allan bob nos.

9Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –

dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!”

Ac mae’n gweiddi’n uchel,

“Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio!

Mae’r delwau o’i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”

10Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu:

dw i wedi dweud wrthoch chi

beth glywais i gan yr ARGLWYDD hollbwerus,

Duw Israel.

Cosbi Edom

11Neges am Dwma:

Mae rhywun yn galw arna i o Seir:

“Wyliwr, faint o’r nos sydd ar ôl?

Wyliwr, faint o’r nos sydd ar ôl?”

12Atebodd y gwyliwr,

“Mae’r bore yn dod, ond daw’r nos yn ôl.

Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.

Trowch! Dewch yn ôl!”

Notes for verses 11–121 entry

Text notes

  • Isaiah 21:11 Dwma … Seir Dwma: gwerddon (oasis) yn anialwch gogledd Arabia. Seir: ardal fynyddig yn Edom, i’r de-orllewin o’r Môr Marw. View in passage

Cosbi Arabia

13Neges am Arabia:

Cuddiwch yn nrysni’r anialwch, chi grwydriaid Dedan!

14Rhowch ddiod o ddŵr i’r sychedig, chi sy’n byw yn Tema;

rhowch fara i’r ffoaduriaid.

15Maen nhw’n dianc rhag y rhyfel,

rhag y cleddyf sydd wedi’i dynnu o’r wain,

rhag y bwa sy’n barod i saethu,

a rhag caledi’r frwydr.

Notes for verses 13–152 entries

Text notes

16Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod; 17nifer fach iawn o arwyr Cedar sy’n saethu gyda’r bwa fydd ar ôl.” Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.

Notes for verses 16–172 entries

Text notes

  • Isaiah 21:16 blwyddyn union Hebraeg, “mewn blwyddyn, fel blynyddoedd gweithiwr” h.y. yn cael eu cyfri’n fanwl gywir. View in passage

  • Isaiah 21:16 Cedar Ardal yn anialwch Arabia. View in passage