Eseia 20
Eseia’n proffwydo cwymp yr Aifft a theyrnas Cwsh
1Roedd hi’r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, a’i choncro. 2Dyma’r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a thynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.
Notes for verses 1–21 entry
Text notes
Isaiah 20:1 Ashdod Concrodd y Brenin Sargon II o Asyria dref y Philistiaid yn 711 CC. View in passage
3Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy’n rhybudd i’r Aifft a theyrnas Cwsh yn nwyrain Affrica: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed, 4bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a’u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft! 5Byddan nhw’n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o’r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a’r Aifft (y rhai roedden nhw’n eu brolio).
Notes for verses 3–51 entry
Text notes
Isaiah 20:3 Cwsh … Affrica Hebraeg, Cwsh. Teyrnas i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. View in passage
6“Bryd hynny, bydd y rhai sy’n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i’r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai’n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”