Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 9

Addoliad paganaidd Israel

1O Israel, stopia ddathlu

a gweiddi’n llawen fel y paganiaid;

ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.

Ti’n hoffi derbyn cyflog putain

wrth ‘addoli’ ar bob llawr dyrnu!

2Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,

a bydd y grawnwin o’r gwinllannoedd yn dy siomi.

Y gaethglud yn gwrthdroi’r exodus

3Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.

Bydd Effraim yn mynd yn ôl i’r Aifft,

ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.

4Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i’r ARGLWYDD,

nac offrymu aberthau iddo.

Bydd yr aberthau’n aflan,

fel bwyd pobl sy’n galaru;

bydd pawb sy’n ei fwyta’n cael eu llygru.

Bydd eu bwyd i’w boliau’n unig;

fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.

Notes for verses 3–42 entries

Text notes

  • Hosea 9:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

  • Hosea 9:3 bwyd aflan roedd Cyfraith Moses yn gwahardd bwyta rhai pethau am eu bod yn ‘aflan’ (gw. Lefiticus 11). View in passage

5Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –

sut fyddwch chi’n dathlu Gwyliau’r ARGLWYDD?

6Hyd yn oed os byddan nhw’n dianc o’r dinistr,

bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,

a Memffis yn eu claddu nhw.

Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau

a mieri’n meddiannu eu tai.

7Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!

Mae dydd y farn wedi dod!

Mae’n bryd i Israel wybod!

Notes for verses 5–73 entries

Text notes

Cross-references

Israel yn gwrthod neges y proffwyd

“Mae’r proffwyd yn hurt!

Mae’r dyn ysbrydol yn wallgof!”

Ti wedi pechu gymaint,

ac mor llawn casineb!

8Mae’r proffwyd yn wyliwr

dros Effraim ar ran Duw.

Ond mae trapiau’n cael eu gosod ar ei lwybrau;

a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.

9Mae’r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,

fel digwyddodd yn Gibea gynt.

Bydd Duw yn delio gyda’u drygioni

ac yn eu cosbi am eu pechodau.

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

10Roedd darganfod Israel

fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.

I mi, roedd dy hynafiaid

fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.

Ond dyma nhw’n cyrraedd Baal-peor,

a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus –

cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd

â’r eilun roedden nhw’n ei addoli.

Notes for verse 101 entry

Cross-references

  • Hosea 9:10 – Numbers 25:1–5 ; Numbers 31:16

Y gosb i ddod

11“Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth! 12Hyd yn oed petaen nhw’n magu plant, bydda i’n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i’n mynd i droi cefn arnyn nhw! 13Rôn i’n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi’i phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw’n dod â’i plant allan i’w lladd.”

14Rho iddyn nhw, ARGLWYDD –

Ond beth roi di iddyn nhw? –

Rho grothau sy’n erthylu, a bronnau wedi sychu!

15“Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal,

dw i’n eu casáu nhw.

Dw i’n mynd i’w gyrru nhw allan o’m tir

o achos eu holl ddrygioni.

Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;

mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.

16Bydd pobl Effraim yn cael eu taro’n galed –

mae’r gwreiddyn wedi sychu;

a does dim ffrwyth yn tyfu.

A hyd yn oed petaen nhw’n cael plant,

byddwn i’n lladd eu babis bach del!”

Notes for verses 15–161 entry

Text notes

17Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw

am beidio gwrando arno;

ac yn gwneud iddyn nhw grwydro

ar goll ymhlith y cenhedloedd!