Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 10

Gwrthod Addoliad Israel

1Roedd Israel fel gwinwydden iach

a’i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.

Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,

mwya o allorau a godwyd.

Wrth i gnydau’r tir lwyddo

byddai’r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.

2Maen nhw’n rhagrithio,

felly byddan nhw’n cael eu cosbi.

Bydd yr ARGLWYDD ei hun

yn chwalu’r allorau

ac yn malu’r colofnau.

3Yn fuan iawn byddan nhw’n cyfaddef,

“Does dim brenin am ein bod heb barchu’r ARGLWYDD.

Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”

4Maen nhw’n llawn geiriau gwag,

addewidion wedi’u torri,

a chytundebau diwerth.

Mae achosion llys yn lledu

fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi’i aredig.

5Bydd pobl Samaria yn ofni

beth ddigwydd i lo Beth-afen.

Bydd y bobl yn galaru

gyda’r offeiriaid ffals a fu’n dathlu,

am fod ei ysblander wedi’i gipio,

6a’i gario i Asyria

yn anrheg i’r brenin mawr.

Notes for verses 5–61 entry

Text notes

Anufudd-dod a chosb Israel

Bydd Effraim yn destun sbort,

ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.

7Bydd Samaria’n cael ei dinistrio,

a’i brenin yn cael ei gipio

fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.

8Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –

sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.

Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.

Byddan nhw’n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!”

ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”

Notes for verses 6–82 entries

Text notes

  • Hosea 10:6 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Cross-references

  • Hosea 10:8 – Luke 23:30 ; Revelation 6:16

Yr ARGLWYDD yn cyhoeddi barn ar Israel

9“Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea? 10A dw i’n barod i gosbi eto. Dw i’n mynd i gasglu’r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.

Notes for verses 9–101 entry

Text notes

11Roedd Effraim fel heffer wedi’i hyfforddi,

ac wrth ei bodd yn sathru’r grawn.

Ond dw i’n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,

a gêr i wneud i Effraim aredig.

Bydd rhaid i Jwda aredig

a Jacob lyfnu’r tir ei hun!

12Heuwch hadau cyfiawnder,

a chewch gynhaeaf o gariad gen i.

Trin tir eich calon galed –

ceisio’r ARGLWYDD nes iddo ddod

gyda chawodydd achubiaeth.

Notes for verse 121 entry

Cross-references

13Ond rwyt wedi plannu drygioni,

a medi anghyfiawnder,

ac yna bwyta ffrwyth y twyll.

Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,

a phwyso ar faint dy fyddin.

14Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,

a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.

Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a’r mamau’n cael eu curo i farwolaeth gyda’u plant. 15Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw’n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.”

Notes for verses 14–152 entries

Text notes

  • Hosea 10:14 Shalman un o frenhinoedd Moab. View in passage

  • Hosea 10:15 bydd brenin … am byth Cafodd y Brenin Hoshea ei ddal a’i garcharu gan fyddin Asyria cyn iddyn nhw ddechrau ymosod ar ddinas Samaria (2 Brenhinoedd 17:4). View in passage